Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Gwirfoddoli

Fel rhan o’i rôl monitro, mae Awdurdod yr Heddlu yn gweithredu dau Gynllun Ymwelwyr Lleyg:

Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa

Custody VisitingMae Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa yn gynllun lle mae aelodau o’r cyhoedd, sy’n cael eu penodi a’u hyfforddi gan Awdurdod yr Heddlu, yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu yn ddirybudd i edrych ar les pobl a gedwir yng ngorsafoedd yr heddlu. Mae’r cynllun yn gwbl annibynnol ar yr heddlu ac yn helpu i wella atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn plismona.

Ni roddir rhybudd o’r ymweliadau a’r nod yw ymweld â phob gorsaf dalfa yn ardal Dyfed Powys o leiaf unwaith y mis.

Daeth Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa yn gyfrifoldeb statudol i awdurdodau’r heddlu ar 1af Ebrill 2003 dan Adran 51 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002. Drwy wneud ymweliadau annibynnol â’r ddalfa yn statudol, codwyd statws yr ymweliadau ar unwaith ac mae cod ymarfer ategol wedi sicrhau safonau cyson ar draws Cymru a Lloegr.

Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn gweinyddu cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, ac ar hyn o bryd, mae ganddynt lefydd gwag yn Aberystwyth (Ceredigion), Hwlffordd (Sir Benfro) a Drenewydd (Powys).

Ffurlen Gais, gweler:  Dod yn Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa

Cynllun Ymwelwyr Lleyg er Lles Anifeiliaid

Police Dog and PCYn sgil marwolaeth un o gŵn yr heddlu tra roedd yn cael ei hyfforddi ac erlyn swyddogion yr heddlu o ganlyniad, collodd y cyhoedd hyder mewn dulliau hyfforddi cŵn yr heddlu. O ganlyniad, cynhaliwyd adolygiad a lansiwyd Strategaeth Cŵn yr Heddlu gan Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu.

Nod y strategaeth hon oedd adfer hyder y cyhoedd a sicrhau y rhoddir blaenoriaeth uchel i les cŵn yr  heddlu a’u bod yn cael eu trin yn effeithiol, yn hynaws ac yn foesegol mewn modd agored.

Er mwyn ymateb i’r Strategaeth hon, mae Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi sefydlu Cynllun Ymwelwyr Lleyg er Lles Anifeiliaid. Lluniwyd rota o ymweliadau i sicrhau bod pob swyddog trin cŵn yn cael ymweliad gan Ymwelydd Lleyg Annibynnol er Lles Anifeiliaid o leiaf unwaith y flwyddyn.

Amcanion y Cynllun

  • Galluogi aelodau penodedig o’r gymuned leol, ynghyd â gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lles anifeiliaid e.e. RSPCA, Cynghrair Genedlaethol Amddiffyn Cŵn, Arolygwyr Iechyd Anifeiliaid o Awdurdodau Unedol ac ati, i edrych ar amodau byw cŵn yr heddlu, sut y cânt eu hyfforddi a’u cludo a’u hamodau gwaith, a chyflwyno adroddiadau ar hynny.
  • Darparu dull o gynnal gwiriad annibynnol o’r ffordd y mae swyddogion trin cŵn gi yn ymgymryd â’u cyfrifoldebau mewn perthynas â’r anifeiliaid sydd dan eu gofal.
  • Sicrhau bod cynnwys llawlyfr Cyffredinol Hyfforddiant a Gofal ar gyfer Cŵn yr Heddlu ar gael i’r cyhoedd.
  • Sicrhau bod cofnodion manwl o hanes meddygol y cŵn ar gael i Ymwelwyr Lleyg eu harchwilio.

Cynllun Ymwelwyr Lleyg er Lles Anifeiliaid (PDF, 133 kB)

Rhagor o Wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cynlluniau, cysylltwch â:

Cydlynydd y Cynllun ar 01267 226440
e-bost: police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk

Adroddiad Blynyddol Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd a Lles Anifeiliaid

Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall o ran gweithredu’r cynllun ymweliadau dalfeydd. Croesawyd ymwelwyr newydd i’r cynllun, a mawr obeithiwn y byddant yn gwasanaethu am nifer o flynyddoedd i ddod. Mae’r Awdurdod yn adolygu ei brosesau yn barhaus er mwyn gwella effeithiolrwydd y cynllun ymweliadau dalfeydd, ac er mwyn cynyddu’r cymorth a roddir i’w dîm gwerthfawr o wirfoddolwyr.

Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.