Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Rolau a Chyfrifoldebau

Crynodeb o Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau Statudol Awdurdod yr Heddlu

Tair swyddogaeth Awdurdod yr Heddlu yw:

  • Sicrhau Gwasanaeth Heddlu effeithlon ac effeithiol (Adran 6, Deddf Heddlu 1996).
  • Sicrhau Gwerth Gorau, h.y. gwelliannau parhaus yn y ffordd y mae (ei swyddogaethau) yn cael eu gweithredu gan roi sylw i gynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (Adran 3, Deddf Llywodraeth Leol 1999).
  • Gwneud trefniadau i gael:
    • Barn pobl leol ynghylch plismona’u hardal; a
    • Chydweithrediad pobl leol wrth atal trosedd.

Mae gan yr Awdurdod amrediad llawn o ddyletswyddau statudol sy’n sail i’r swyddogaethau hyn. Nid yw’r canlynol yn rhestr drwyadl - yn benodol, nid yw’n nodi manylion materion gweithdrefniadol dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol neu’r rhai hynny sy’n gysylltiedig â phenodiadau neu gyfrifoldebau Swyddogion Awdurdod yr Heddlu / Staff dan ddeddfwriaeth yr Heddlu / Llywodraeth Leol. Yn lle hynny, mae’n canolbwyntio ar gyfrifoldebau allweddol y mae gofyn i Awdurdod yr Heddlu eu cyflawni fel rhan o’i swyddogaeth. Sef:

  • Pennu’r blaenoriaethau lleol ar gyfer plismona – ar ôl ymgynghori â phobl leol ac â’r Prif Gwnstabl.
  • Cyhoeddi Cynllun Plismona Blynyddol yn cynnwys Blaenoriaethau Gweinidogaethol, amcanion plismona lleol ac unrhyw dargedau perfformiad a osodwyd gan yr Awdurdod ac yn cynnwys Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau.
  • Cyhoeddi Cynlluniau Strategaeth tair blynedd yn nodi strategaethau tymor canolig a thymor hir yr Awdurdod ar gyfer plismona’r ardal.
  • Adrodd yn ôl i’r gymuned ar ddiwedd y flwyddyn gan nodi i ba raddau y mae’r Cynllun Plismona/Perfformiad Gwerth Gorau wedi ei gyflawni.
  • Penodi a diswyddo’r Prif Gwnstabl yn unol â chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol (Adran 11, Deddf yr Heddlu 1996).
  • Penodi a diswyddo’r Dirprwy Prif Gwnstabl a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol.
  • Dal Cronfa’r Heddlu a chynnal cyfrifon.
  • Enwebu un neu fwy o Aelodau’r Awdurdod i ateb cwestiynau ar gyflawni swyddogaethau’r Awdurdod mewn cyfarfod Cyngor perthnasol pan roddir rhybudd rhesymol o hyn gan y Cyngor.
  • Cydweithio ag Awdurdodau Heddluoedd eraill i ddarparu cyfarpar, eiddo a chyfleusterau materol eraill, lle’n briodol.
  • Penderfynu’r taliadau ar gyfer darparu Gwasanaethau Heddlu arbennig.
  • Darparu cyngor a chymorth i gymdeithas neu sefydliad rhyngwladol neu gorff heddlu o’r tu allan i’r DU (gan gynnwys secondiad Swyddogion Heddlu), yn unol â chaniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol. Gall yr Awdurdod godi tâl am gyngor/cymorth o’r fath.
  • Cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar berfformio targedau ar gyfer blaenoriaethau gweinidogaethol.
  • Cydymffurfio ag unrhyw Godau Ymarfer a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau Awdurdod yr Heddlu.
  • Cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn adroddiad gwrthwynebus gan Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi, hynny yw, nad yw’r Heddlu, neu y bydd yr Heddlu’n peidio â bod, yn effeithiol neu’n effeithlon.
  • Cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â gofynion cyllidebol.
  • Rhoi sylwadau ar unrhyw adroddiad gan Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi ar yr Heddlu ac unrhyw sylwadau a wneir gan y Prif Gwnstabl ynghylch yr adroddiad a chyhoeddi’r sylwadau hynny.
  • Ymchwilio i gwynion ynghylch ymddygiad swyddogion ACPO neu lle’n briodol cyfeirio cwynion at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.
  • Sicrhau ei fod yn cael gwybod am ddulliau gweithredu’r gweithdrefnau cwynion a disgyblu.
  • Rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gwynion neu faterion disgyblu.
  • Talu o Gronfa’r Heddlu, yn y cyfryw achosion ac i’r cyfryw raddau yr ystyria’n briodol, unrhyw iawndal neu gostau a ddyfarnwyd yn erbyn yr heddlu yn gysylltiedig â chamweddau neu mewn perthynas â setliad hawliad.
  • Derbyn grantiau gan unrhyw Gyngor lleol sy’n disgyn yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ardal yr Awdurdod naill ai’n ddiamod neu’n unol ag amodau a gytunir â Phrif Swyddog yr Heddlu.
  • Derbyn rhoddion ariannol neu roddion a benthyciadau o eiddo eraill, gan gynnwys nawdd masnachol ar gyfer unrhyw weithgarwch yr Awdurdod neu’r Heddlu ar y cyfryw delerau sy’n ymddangos yn briodol iddo.
  • Cynnal Arolygon Gwerth Gorau o’i swyddogaethau yn unol ag unrhyw orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
  • Cyhoeddi unrhyw adroddiad arolwg ar ei Gynllun Perfformiad Gwerth Gorau.
  • Ffurfio a gweithredu, ar y cyd ag Awdurdodau cyfrifol eraill, arolygon a strategaethau trosedd ac anrhefn ar gyfer pob Cyngor Unedol yn ei ardal.
  • Cyflawni ei swyddogaethau gan roi sylw dyledus i effaith tebygol cyflawni’r swyddogaethau hynny ar, ac i’r angen i wneud cymaint ag y gall wneud yn rhesymol i atal, trosedd ac anrhefn yn ei ardal.
  • Cydymffurfio â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
  • Rhoi sylw dyledus i’r angen i:
    • Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail hil;
    • Hyrwyddo cydraddoldeb o ran cyfle a chysylltiadau da pobl o grwpiau hiliol gwahanol. (Adran 2, Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000).
  • Cynnal Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa effeithiol (anstatudol)
  • Cynnal Cynllun Ymwelwyr Lles Anifeiliaid effeithiol (anstatudol)

Sut mae’r Awdurdod yn Gweithio

Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys pedwar ar bymtheg o Aelodau sydd wedi eu penodi am dymor o bedair blynedd. Mae’r Awdurdod yn cynnwys:-

  • 10 Cynghorydd Awdurdod Lleol (Aelodau Etholedig)
  • 9 Aelod Annibynnol

Yn ychwanegol at hyn, ceir hefyd 2 Aelod cyf-etholedig sy’n eistedd ar y Pwyllgor Safonau Moesegol.