Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys pedwar ar bymtheg o aelodau, deg Cynghorydd a naw aelod Annibynnol. I weld pwy eich Aelod Awdurdod Heddlu lleol chi, cliciwch yma.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y mae Aelodau’n cael eu penodi i’r Awdurdod yma.
Tair swyddogaeth Awdurdod yr Heddlu yw:
Mae gan yr Awdurdod amrediad llawn o ddyletswyddau statudol sy’n sail i’r swyddogaethau hyn. Am wybodaeth fanylach mewn perthynas â’r rhain, cliciwch yma.
Mae Awdurdod yr Heddlu’n cyflawni ei ddyletswyddau drwy nifer o Bwyllgorau ac Is-bwyllgorau sydd wedi’u rhannu’n bennaf yn ffrydiau gwaith e.e. Safonau, Archwilio ac Adolygu, Ymgysylltu â’r Gymuned ac Adnoddau Dynol ayyb. Mae Aelodau’r Awdurdod yn herio ac yn craffu ar berfformiad a gweithredoedd yr Heddlu drwy ei strwythur Pwyllgor.
Dangosir Strwythur Pwyllgor yr Awdurdod Isod.
Am ragor o wybodaeth ynghylch cylch gorchwyl pob Pwyllgor, cliciwch yma.
Cefnogir Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys gan dîm bychan o swyddogion. Arweinir y tîm gan y Prif Weithredwr, Mr Keith Reeves, LLB (Anrh) LLM.
Mae gan swyddogion eu maes arbenigol eu hunain, ac yn cynghori a chefnogi Aelodau mewn meysydd megis ymgysylltu â’r gymuned, perfformiad a chwynion.
Yn ogystal, mae’r Ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am weinyddu holl Gynlluniau a chyfarfodydd yr Awdurdod, a sicrhau bod gan Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw bolisïau neu newidiadau ar lefel leol, lefel ranbarthol neu ar lefel genedlaethol.
I weld swyddogaethau a chyfrifoldebau staff yr Ysgrifenyddiaeth, cliciwch yma.
Fel rhan o’i rôl monitro, mae Awdurdod yr Heddlu’n gweithredu dau gynllun Ymwelwyr Gwirfoddol, sef y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa a’r Cynllun Lles Anifeiliaid. I gael gwybod mwy am ein cynlluniau gwirfoddoli, cliciwch yma.
Mae’r Awdurdod hefyd yn rheoli Grŵp Ymgynghorol Annibynnol ar y cyd â’r Heddlu. I gael gwybod mwy am rôl y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol, cliciwch yma.