I gynnal ei fusnes yn effeithiol, mae’n rhaid i’r Awdurdod sicrhau fod ganddo bolisïau rheolaeth ariannol cadarn yn eu lle, a’u bod yn cadw’n gaeth at y polisïau hynny. Rhan o’r broses hon yw mabwysiadu a gweithredu Rheoliadau Ariannol. Mae’r Rheoliadau yn y ddogfen honno wedi eu llunio yn y fath modd fel eu bod yn sicrhau fod materion ariannol yr Awdurdod yn cael eu cynnal yn briodol ac yn cydymffurfio â’r holl ofynion angenrheidiol.
Lluniwyd y Rheoliadau er mwyn sefydlu cyfrifoldebau ariannol trosfwaol, rhoi dyletswyddau, hawliau a phwerau i’r Awdurdod, yr Heddlu a’i swyddogion, a chynnig eglurder ynghylch atebolrwydd ariannol grwpiau neu unigolion. Maent yn berthnasol i bob aelod a swyddog o’r gwasanaeth ac unrhyw un yn gweithredu ar ei ran.
Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.