Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Cynllun Lwfansau a Threuliau'r Aelodau

Crynodeb

Mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer talu:-

  • Lwfans Sylfaenol (BA), sy’n daladwy i bob Aelod o Awdurdod yr Heddlu;
  • Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig (SRA) ar gyfer Aelodau Awdurdod yr Heddlu sy’n cyflawni “dyletswyddau arbennig”, fel y’u diffinnir gan yr Awdurdod.
  • Lwfans Amser Teithio (TTA) sy’n cymryd i ystyriaeth yr amser a dreulir gan Aelodau yn teithio rhwng eu cartref arferol a chyfarfodydd a drefnir gan yr Awdurdod neu gyfarfodydd yr awdurdodwyd nhw gan yr Awdurdod i’w mynychu.

Yn ogystal, telir lwfansau teithio a chynhaliaeth mewn perthynas â dyletswyddau awdurdodedig.  Gellir talu’r rhain i Aelodau’r Awdurdod ac i Aelodau Lleyg (nad ydynt yn Aelodau o’r Awdurdod) fel y’u diffinnir yn nes ymlaen yn y Cynllun hwn.

Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.