Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor y Cynorthwyydd Llywio
Hygyrchedd

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Fel rhan o’i rôl monitro, mae Awdurdod yr Heddlu yn gweithredu dau Gynllun Ymwelwyr Lleyg:

Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa

Mae Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa yn gynllun lle mae aelodau o’r cyhoedd, sy’n cael eu penodi a’u hyfforddi gan Awdurdod yr Heddlu, yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu yn ddirybudd i edrych ar les pobl a gedwir yng ngorsafoedd yr heddlu. Mae’r cynllun yn gwbl annibynnol ar yr heddlu ac yn helpu i wella atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn plismona.

Ni roddir rhybudd o’r ymweliadau a’r nod yw ymweld â phob gorsaf dalfa yn ardal Dyfed Powys o leiaf unwaith y mis.

Daeth Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa yn gyfrifoldeb statudol i awdurdodau’r heddlu ar 1af Ebrill 2003 dan Adran 51 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002. Drwy wneud ymweliadau annibynnol â’r ddalfa yn statudol, codwyd statws yr ymweliadau ar unwaith ac mae cod ymarfer ategol wedi sicrhau safonau cyson ar draws Cymru a Lloegr.

Nid oes llefydd gwag i wirfoddolwyr ar y Cynllun Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd ar hyn o bryd.

Cynllun Ymwelwyr Lleyg er Lles Anifeiliaid

Yn sgil marwolaeth un o gŵn yr heddlu tra roedd yn cael ei hyfforddi ac erlyn swyddogion yr heddlu o ganlyniad, collodd y cyhoedd hyder mewn dulliau hyfforddi cŵn yr heddlu. O ganlyniad, cynhaliwyd adolygiad a lansiwyd Strategaeth Cŵn yr Heddlu gan Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu.

Nod y strategaeth hon oedd adfer hyder y cyhoedd a sicrhau y rhoddir blaenoriaeth uchel i les cŵn yr  heddlu a’u bod yn cael eu trin yn effeithiol, yn hynaws ac yn foesegol mewn modd agored.

Er mwyn ymateb i’r Strategaeth hon, mae Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi sefydlu Cynllun Ymwelwyr Lleyg er Lles Anifeiliaid. Lluniwyd rota o ymweliadau i sicrhau bod pob swyddog trin cŵn yn cael ymweliad gan Ymwelydd Lleyg Annibynnol er Lles Anifeiliaid o leiaf unwaith y flwyddyn.

Amcanion y Cynllun

Cynllun Ymwelwyr Lleyg er Lles Anifeiliaid (PDF, 84 kB)

Rhagor o Wybodaeth

Adroddiad Blynyddol

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cynlluniau, cysylltwch â:

Cydlynydd y Cynllun ar 01267 226440
e-bost: police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk

26/08/10 10:31