Mae Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdod yr Heddlu wedi lansio ymgyrch i recriwtio ymgynghorwyr arbenigol i eistedd ar Grŵp Ymgynghorol Annibynnol fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r ddau sefydliad.
Bydd y bobl rydym yn chwilio amdanynt yn gallu rhoi cyngor personol ac annibynnol yn hytrach na chyflwyno barn grwpiau neu gyrff. Rydym am i aelodaeth y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol gynrychioli, yn fras, y cymunedau amrywiol a wasanaethir gennym o ran oed, anabledd, rhyw a hunaniaeth rywiol, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith Gymraeg.
Rydym yn chwilio am bobl â meddwl agored, sy’n barod i ymgysylltu ag eraill a chyfnewid safbwyntiau gonest, a phobl sy’n barod i’n cynorthwyo i ddarparu gwell gwasanaeth sy’n deg a chyfartal i holl drigolion Dyfed Powys.”
Bydd y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn cyfarfod bob chwarter ac yn gweithio o fewn cynllun cytunedig, gyda blaenoriaethau’n cael eu gosod gan Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.
Aelodau o’r cyhoedd yw Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, sydd wedi eu recriwtio’n benodol er mwyn ymweld â gorsafoedd heddlu yn ddirybudd er mwyn cadw llygad ar y modd y mae’r rhai a gedwir yn y ddalfa yn cael eu trin a’r amodau o dan ba rai y’u cedwir. Mae’r gwaith hwn nid yn unig yn cynnig diogelwch i’r sawl sydd yn cael eu cadw yn y ddalfa, ond yn helpu i fagu hyder rhwng yr heddlu a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn gweinyddu cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, ac ar hyn o bryd, mae ganddynt lefydd gwag yn Llandrindod a Drenewydd (Powys). Gwahoddir ceisiadau gan bob aelod o’r gymdeithas sydd yn 18 neu’n hŷn, ar wahân i rai sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r system cyfiawnder troseddol e.e. heddweision, cyfreithwyr neu swyddogion prawf, er mwyn osgoi buddiannau sy’n gwrthdaro. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan grwpiau yn ein cymunedau a dangynrychiolir er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr y Cynllun yn adlewyrchu’n cymunedau amrywiol. Darperir hyfforddiant gan Awdurdod yr Heddlu ar y cyd â Chymdeithas Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa, ac ad-delir costau perthnasol. Disgwylir i ymwelwyr annibynnol gynnal un neu ddau ymweliad y mis.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa ac yn dymuno cael ffurflen gais, cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu ar 01267 226440, anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk.
Ffurlen Gais, gweler: Dod yn Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa
Cynrychiolir Symbol Anabledd y Ganolfan Byd Gwaith gan 'ddau dic' a'r geiriau 'yn gadarn o blaid pobl anabl'. Os bydd cyflogwr yn defnyddio’r symbol hwn, mae hynny’n golygu ei fod yn gadarnhaol o ran cyflogi pobl anabl ac y bydd yn awyddus i wybod am eich galluoedd.
Dyfarnwyd bod Heddlu Dyfed Powys yn cael defnyddio'r symbol oherwydd ei ymrwymiad i gyflogi, cadw, a datblygu galluoedd staff ag anabledd.
Am ragor o wybodaeth am y symbol anabledd, cliciwch yma.