Stopio a Chwilio
O Ebrill 1af 2005, bydd yn rhaid i swyddogion yr heddlu gofnodi pob achos o ‘Stopio’ a ‘Stopio a Chwilio’. Mae hyn yn dilyn argymhelliad a ddeilliodd o Ymchwiliad Stephen Lawrence.
‘Stopio’ yw pan fydd swyddog yr heddlu yn gofyn i rywun mewn lle cyhoeddus roi cyfrif am ei weithredoedd, ei ymddygiad neu bethau yn ei feddiant.
‘Stopio a Chwilio’ yw pan fydd swyddogion yn eich chwilio os byddant yn amau eich bod yn cario cyffuriau, arfau, eiddo wedi ei ddwyn neu eitemau y gellid eu defnyddio i gyflawni trosedd.
Gellir cael taflen yn esbonio’r newidiadau hyn yn fanylach drwy ysgrifennu at:
Prif Weithredwr Awdurdod Heddlu Dyfed-PowysPencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Lawrlwytho’r daflen (PDF, 72 kB)
Hafan