Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Is-bwyllgor y Gwasanaethau Diogelu

Dydd Mercher 27 Gorfennaf 2011, 10:00am
Swyddfeydd Awdurdod yr Heddlu, Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin

Agenda

1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Datgan buddiannau.

3. Penodi Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

4. Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

5. Cadarnhau Cofnodion (crynodeb cyhoeddus) y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 20fed o Fai 2011 (dosbarthwyd yng Nghyfarfod Awdurdod yr Heddlu ar yr 20fed o Fehefin 2011).

6. Materion yn codi.

Materion i’w Penderfynu:

7. Cadarnhau Cylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor (dosbarthwyd yng Nghyfarfod Awdurdod yr Heddlu ar yr 20fed o Fehefin 2011).

Materion i’w Trafod:

8. Penderfynu atal y Cyhoedd a’r Wasg o’r cyfarfod ar gyfer yr saith eitem ganlynol, gan ei bod yn debygol y caiff gwybodaeth a eithrir dan baragraff 18 o Atodlen 12A i’r Ddeddf o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn cael ei datgelu.

9. Cadarnhau Cofnodion Eithriedig y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 20fed o Fai 2011 (dosbarthwyd yng Nghyfarfod Awdurdod yr Heddlu ar yr 20fed o Fehefin 2011).

10. Derbyn y Gofrestr Adolygu Achosion Difrifol (amgaeedig).

11. Derbyn canfyddiadau’r archwiliad o Asesiad Risg Cam-drin Domestig, Stelcio ac Aflonyddu (DASH).

12. Derbyn adroddiad ar lefelau digwyddiadau domestig sy’n gostwng yng Ngheredigion (amgaeedig).

13. Derbyn diweddariad llafar ar Asesiad Strategol yr Heddlu a’r Strategaeth Reoli.

14. Derbyn diweddariad ar y cynnydd a wnaed er mwyn cwrdd â Safonau Gwasanaethau Diogelu ACPO.

15. Ystyried cofnodion:

a) Bwrdd CONTEST yr Heddlu ar y 18fed o Fai 2011 (i ddilyn).

b) Grŵp Arwain Gwasanaethau Diogelu Awdurdodau Heddluoedd Cymru ar yr 17eg o Fai 2011 (amgaeedig).

Sesiwn Agored

16. Derbyn adroddiad ar y ffactorau a achosodd pobl i gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd yng Ngheredigion.

17. Derbyn adroddiad ar strategaeth PREVENT diwygiedig y Llywodraeth (PDF, 170 KB)

18. Derbyn gwybodaeth gan yr Aelodau â Chyfrifoldeb Arwain a Chyswllt dros feysydd y Gwasanaethau Diogelu.

a) Ann Williams – Aelod Cyswllt ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd.(PDF, 149 KB)

b) Y Cynghorydd A Lloyd Jones - Aelod Cyswllt ar gyfer Trefn Gyhoeddus ac Arfau Saethu.

c) Y Cynghorydd D Neale - Aelod Cyswllt ar gyfer Digwyddiadau Critigol, Argyfyngau Sifil a Phlismona Ffyrdd Strategol  (PDF, 16KB)

d) Y Cynghorydd D Evans – Aelod Cyswllt ar gyfer Troseddau Mawr, Troseddau Difrifol, Troseddau Trefnedig a Throseddau Traws-ffin (PDF, 83KB)

e) Daphne Evans – Aelod Cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Diogelu.

19. Materion Hil ac Amrywiaeth.

20. Unrhyw Fusnes arall.

“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.

Noder os gwelwch yn dda:  Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog.  Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.