Cyn dechrau ar brif fusnes y cyfarfod, bydd cyflwyniad yn cael ei wneud i PC 23 Vicky Lloyd a PC 715 Fraser Scott sydd wedi derbyn Gwobr y Royal Humane Society am chwarae eu rhan wrth achub benyw o Gronfa Ddŵr Caban Coch ynghynt yn y flwyddyn.
1. Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.
2. Derbyn ymddiheuriadau dros absenoldeb.
3. Derbyn datganiadau o ddiddordeb.
4. Ystyried Cofnodion (Crynodeb Cyhoeddus) Cyfarfod Awdurdod yr Heddlu a gynhaliwyd ar 19 Medi 2011(PDF.304KB)
5. Materion yn Codi.
6. Derbyn y Cofnodion Pwyllgor a ganlyn, a chymeradwyo, yn ôl yr angen, unrhyw argymhellion o'u mewn:
i. Pwyllgor Safonau 27 Hydref 2011(PDF.204KB)
ii. Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff 17 Tachwedd 2011 (pdf,203 kb).
iii. Pwyllgor Cyswllt Cymunedol a Chysylltiadau Cyhoeddus 5 Rhagfyr 2011(PDF.185KB)
iv. Pwyllgor Cynllunio Perfformiad a Chraffu 7 Rhagfyr 2011 (pdf,122 kb).
v. Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol 12 Rhagfyr 2011(PDF.195KB)
7. Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Ariannol ar y Gyllideb Refeniw Drafft Cyntaf 2012/15 - i'w ystyried ar y cyd â chofnodion cyfarfod Cyllid a Dibenion Cyffredinol (pdf,721 kb).
8. Ystyried adroddiadau'r Prif Weithredwr mewn perthynas ag
a) Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â'r Pwyllgor Safonau a'r Côd Ymddygiad (pdf,291 kb) (pdf,327 kb) (pdf,231 kb).
b) Cronfa Ymddiriedolaeth Florence Louisa Lewis ar gyfer prynu cŵn yr heddlu pdf,88 kb).
c) Trefniadau llywodraethu o fewn Awdurdod yr Heddlu (pdf,194 kb).
9. Ystyried adroddiad ar Flaenoriaethau Plismona Lleol ar gyfer 2012/13 (pdf,232 kb).
10. Penderfynu gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r Cyfarfod ar gyfer y 4 eitem busnes a ganlyn yn unol ag adran 100 A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan ei fod yn debyg o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y disgrifir ym mharagraffau 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
11. Derbyn y Cofnodion Eithriedig a ganlyn, a chymeradwyo, yn ôl yr angen, unrhyw argymhellion o'u mewn:
i. Awdurdod yr Heddlu 19 Medi 2011.
ii. Pwyllgor Safonau 27 Hydref 2011.
iii. Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff 17 Tachwedd 2011.
iv. Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol 12 Rhagfyr 2011.
ANGEN PENDERFYNIAD
12. Ystyried adroddiad eithredig y Prif Swyddog Ariannol ar y Gyllideb Refeniw Drafft Cyntaf 2012/15.
13. Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Ariannol ar y Taliadau Blaenoriaeth Arbennig 2011 – Gofynnir i Aelodau ystyried argymhelliad gan y pwyllgor Cyllid a Dibenion cyffredinol a gyfarfuwyd ar 12 Rhagfyr. Am wybodaeth cefndir, gweler yn amgaeedig:
a) Adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff ar 17 Tachwedd mewn perthynas â’r Cynllun Taliadau Blaenoriaeth Arbennig.
b) Adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol ar 12 Rhagfyr ar y Cynllun Taliadau Blaenoriaeth Arbennig.
ER GWYBODAETH
14. Derbyn adroddiad ar lafar gan y Prif Weithredwr ar broses benodi'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol.
15. Ystyried adroddiad chwarterol y Prif Gwnstabl (pdf,506 kb).
16. Ystyried adroddiadau'r Prif Weithredwr mewn perthynas â:
a) Chynnydd ar Gynlluniau Trefniadau Dros Dro (pdf,100 kb).
b) Gweithgaredd HMIC.
c) Cofrestr Risg Awdurdod yr Heddlu (pdf,40 kb).
17. Derbyn Cofnodion cyfarfod Awdurdod yr Heddlu Cymru dyddiedig 14 Hydref 2011.
18. Materion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
19. Unrhyw fusnes arall y mae'r Cadeirydd yn ei ystyried yn fater brys.
“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.
Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.