Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Cyfarfod Yr Awdurdod

Dydd Gwener 17 Chwefror 2012, 10:00am
Swyddfeydd Awdurdod Yr Heddlu, Pencadlys Yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin. SA31 2PF.

Agenda

1. Amrywio rheol sefydlog 1(4) i alluogi’r cyfarfod i ddechrau am 10 o’r gloch.

2. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

3. Ymddiheuriadau am Absenoldeb.

4. Datgan Buddiannau.

5. Ystyried Cofnodion Cyfarfod  Awdurdod yr Heddlu a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2011(PDF,219KB)

6. Materion yn Codi.

7. Derbyn Cofnodion y Pwyllgorau canlynol, a chymeradwyo, fel y bo angen, unrhyw argymhellion a wneir ynddynt:-

i). Pwyllgor Safonau – 25 Ionawr 2012(PDF,230KB)

ii). Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol – 9 Chwefror 2012(PDF,105KB)

I’W PENDERFYNU

8. Derbyn cyflwyniad gan y Prif Gwnstabl a’r Prif Swyddog Ariannol ar faterion cyllideb ar gyfer 2011/12.

9.  Ystyried adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad gosod praesept(PDF,284KB)

10. i) Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Ariannol ar y Gyllideb Refeniw Ddrafft Terfynol ar gyfer 2012/13 hyd 2015/16 (heb gynnwys rhannau eithriedig) (PDF,245KB)(PDF,178KB)(PDF,890KB)(PDF,70KB)

 ii) Ystyried adroddiad y Prif Gwnstabl ar y Gyllideb Refeniw Ddrafft Terfynol ar gyfer 2012/13 hyd 2015/16

iii) Ystyried argymhelliad y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol o’u cyfarfod ar 9 Chwefror 2012 [cyfeiriwch at gofnodion y cyfarfod amgaeedig sydd ar Eitem 7 (ii) o’r Agenda]

 [A fyddai Aelodau gystal â nodi bod angen i o leiaf 10 Aelod o’r Awdurdod gymeradwyo’r praesept yn ôl y gofyniad statudol, a rhaid i o leiaf 6 ohonynt fod yn Gynghorwyr]

11. Ystyried adroddiad ar Oblygiadau Ariannol Newidiadau Treth(PDF,846KB)

12.  Penderfynu atal y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn unol ag adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 tra bod y dwy eitem ganlynol yn cael eu trafod gan ei bod yn debygol  y bydd gwybodaeth a eithrir dan baragraffau 12, 13 a 14 Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn cael ei datgelu.

13. Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Ariannol ar y Gyllideb Refeniw Ddrafft Terfynol ar gyfer 2012/13 hyd 2015/16 (gan gynnwys y rhannau eithriedig)

14. Derbyn adroddiad ar Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu

I’W TRAFOD

15. Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r newid i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu(PDF,106KB)

16. Unrhyw faterion eraill a ystyrir yn rhai brys gan y Cadeirydd. 

“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.

Noder os gwelwch yn dda:  Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog.  Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.