Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Golau Gwyrdd i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ym mis Medi 2011, daeth Deddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol yn gyfraith.  O ganlyniad i’r newidiadau a gyflwynwyd yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, bydd Awdurdod yr Heddlu yn peidio â bod yn Nhachwedd 2011 a bydd pleidleiswyr ledled ardal Dyfed-Powys yn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd neu CHTh yn gyfrifol am ddal y Prif Gwnstabl yn atebol am ddarpariaeth gwasanaethau plismona yn Nyfed-Powys, sef rôl 19 o aelodau Awdurdod yr Heddlu ar hyn o bryd.  Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys rhai o ddyletswyddau cyfredol yr Awdurdod megis cytuno ar y blaenoriaethau plismona a’r cynlluniau darparu, gosod y praesept plismona, sef yr elfen o’r dreth gyngor sy’n effeithio ar gyllideb blismona gyffredinol Dyfed-Powys, a phenodi'r Prif Gwnstabl.

Mae hyn yn debygol o fod yn newid sylweddol i blismona a’i reolaeth, a drwy gydol y cyfnod trawsnewid bydd yr Awdurdod yn gweithio gyda’r Heddlu a budd-ddeiliaid eraill i sicrhau trawsnewid llyfn i’r trefniadau newydd yn Nyfed-Powys.
Rydym wedi sefydlu Bwrdd Pontio i oruchwylio’r newidiadau hyn.  Mae’r Aelodau yn cynnwys y Prif Gwnstabl, Y Prif Swyddog Ariannol, Prif Weithredwr a Phrif Weithredwr Cynorthwyol Awdurdod yr Heddlu, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, a staff a swyddogion allweddol eraill. 

Drwy gydol y newidiadau hyn mi wnawn ddarparu gwybodaeth ar sut mae’r newid yn datblygu’n lleol, a bydd hyn yn cynnwys papurau a gyflwynir i’r Awdurdod Llawn.

 
Fel bydd y gwaith yn datblygu’n lleol a phan fydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth bydd tudalennau Pontio gwefan Awdurdod yr Heddlu yn cael eu diweddaru a’u datblygu ymhellach.  Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau i’w gofyn neu sylwadau i’w gwneud am y rhaglen drawsnewid yn lleol, anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk