Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod yr angen i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth er mwyn osgoi dyblygu ac uchafu cyfleoedd er mwyn sicrhau dulliau gweithredu effeithlon. Mae ei Gynllun Strategol ar gyfer 2011-14 yn dangos nod y sefydliad yn glir:
Hyrwyddo cydweithredu a phartneriaeth er mwyn ehangu a gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir gennym.
Bydd hyn yn cynnwys parhau i ddylanwadu ar agenda Awdurdodau Heddluoedd Cymru a gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaethau eraill er mwyn ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnal gweithgareddau ar y cyd lle bo modd. I weld ein Strategaeth Partneriaeth, cliciwch yma
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda’r tri Awdurdod Heddlu arall yng Nghymru drwy Awdurdodau Heddluoedd Cymru. Sefydlwyd Awdurdodau Heddluoedd Cymru ym 1996 fel ffordd i Aelodau Awdurdod gyfarfod a thrafod materion sy’n effeithio ar Gymru gyfan. Yn 2007, cafodd ei ddatblygu’n gorff cyfansoddiadol â phwerau a chyfrifoldeb dirprwyedig. I weld Cynllun Plismona Cymru Gyfan 2011-14 cliciwch yma
Am ragor o wybodaeth am waith ar y cyd yr ymgymerir ag ef gan yr Heddlu a’r Awdurdod, cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth am Awdurdodau Heddluoedd Cymru, ewch i’w gwefan: http://www.policeauthoritiesofwales.org.uk/cy/.
Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
Mae Awdurdodau Heddlu yn un o chwe chorff ‘cyfrifol’ sy’n eistedd ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn eistedd ar y pedair Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ardal Dyfed-Powys ac yn ymgysylltu’n rheolaidd â’i bartneriaid er mwyn sicrhau bod y dyletswyddau’n cael eu rhannu’n effeithiol. Am ragor o wybodaeth am bob un o’r pedair Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, cliciwch ar y dolenni isod:
Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn eistedd ar y pedair Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn ardal Dyfed-Powys sy’n ei alluogi i sicrhau ei fod yn cwrdd â’i rwymedigaethau o dan Ddeddf Plant 2004. Fel rhan o hyn, mae Awdurdod yr Heddlu wedi gweithio gyda’r Partneriaethau er mwyn hyrwyddo egwyddorion Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gymryd camau i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0-25 oed yn cael cyfleoedd i gyfrannu a bod yn rhan o’r broses penderfynu ar faterion sy’n effeithio arnynt. I gefnogi hyn, mae Awdurdod yr Heddlu wedi datblygu Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc. Cliciwch yma am ragor o fanylion.
Mae enghreifftiau eraill o Awdurdod yr Heddlu’n gweithio gyda phartneriaid yn cynnwys: