Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Cynllun Rhyddid Gwybodaeth

O 1af Ionawr 2005 mae modd i chi gael gwybod a yw Awdurdod yr Heddlu yn cadw gwybodaeth am unrhyw fater neu bwnc, drwy wneud cais. Os yw’r Awdurdod yn cadw’r wybodaeth y gofynnwch amdani, mae’n ddyletswydd arno i’w datgelu i chi.

Yn amodol ar rai eithriadau a nodir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dylai’r Awdurdod, fel rheol gyffredinol, gydymffurfio â’r cais am wybodaeth o fewn ugain diwrnod gwaith.

Mae’r awdurdod wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddiadau (PDF, 371KB) sy’n amlinellu’r wybodaeth y mae’n ei chyhoeddi neu’n bwriadu ei chyhoeddi. Os ydych am gael gwybodaeth, fe’ch gwahoddir i ystyried y cynllun i weld a ellir ei ddefnyddio i ddarparu’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani. Mae manylion am sut y gellir cael gafael ar y wybodaeth sydd o fewn y cynllun hefyd ar gael yn y cynllun.

I gael rhagor o fanylion am y cynllun rhyddid gwybodaeth darllenwch ein Cynllun Cyhoeddiadau Rhyddid Gwybodaeth. (PDF, 204 kB)

Gellir gwneud cais am wybodaeth nad yw’n cael ei chynnwys o fewn y cynllun:

Mr. K.B. Reeves
Prif Weithredwr Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF

Ffacs: 01267 226448
E-bost: police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ynglŷn â sut i wneud cais, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth Awdurdod yr Heddlu ar: 01267 226440

Dylid gwneud pob cais yn ysgrifenedig, a gall hyn gynnwys trwy ffacs neu e-bost.

Mae’r Awdurdod yn gobeithio ei fod yn ymdrin â cheisiadau am wybodaeth mewn modd priodol. Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon â’r ymateb a dderbyniwyd, dylech ysgrifennu yn y lle cyntaf at Brif Weithredwr Awdurdod yr Heddlu.

Os na all y mater gael ei datrys bryd hynny, gallwch ofyn i Bwyllgor Safonau Proffesiynol yr Awdurdod gyflawni ac ystyried adolygiad mewnol. Am ragor o fanylion, gweler Cynllun Cyhoeddi’r Awdurdod.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.