Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn ein holl swyddogaethau, polisïau a’n harferion. Gan fod gennym gyfrifoldeb am sicrhau cynnal Heddlu effeithiol ac effeithlon, mae dyletswydd arnom i ddileu camwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal, a chefnogi perthynas dda rhwng pawb.
Mae ein gweledigaeth fel a ganlyn:
Ymgorfforir cydraddoldeb ac amrywiaeth yng ngwaith beunyddiol Awdurdod Heddlu Dyfed Powys, gan ein bod wedi ymrwymo i sicrhau:
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi ymrwymo i gydweithio â Heddlu Dyfed Powys i sicrhau bod pob person a phob aelod o staff sy'n ymwneud â'r Awdurdod yn fodlon y caiff eu trin yn gyfartal a heb gamwahaniaethu.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb, 2010 yn cynnwys dyletswyddau cyffredinol a phenodol. Mae'r dyletswyddau cyffredinol yn nodi bod yn rhaid i awdurdod cyhoeddus, wrth ddefnyddio'i swyddogaethau, roi ystyriaeth ddyledus i'r angen i:
Y nodweddion wedi'u diogelu perthnasol yw: oedran, anabledd, cenedl, newid rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a thueddfryd rhywiol.
Am wybodaeth ynglyn â sut mae'r Awdurdod yn gweithredu i gyglawni'r dyletswydd cydraddoldeb sector gyhoeddus, cliciwch yma (PDF, 263KB).
Ein Cynllun a’n Hamcanion Cydraddoldeb
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hymgorffori’n llawn ym mhob peth rydym yn gwneud. Er mwyn dangos ein hymroddiad, mae’r Awdurdod yn falch o gyflwyno ei Gynllun Cydraddoldeb ar gyfer 2012-2016 (pdf, 464kb).
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli’r deddfwriaethau gwrth-wahaniaethu blaenorol gan ei wneud yn haws i bawb ddeall. Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu’r cam blaengar hwn ymlaen.
Dywedodd Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, “Datblygwyd ein Cynllun Cydraddoldeb, sy’n gosod nifer o Amcanion Cydraddoldeb, yn dilyn ymgynghoriad â’n cymunedau amrywiol er mwyn sicrhau ein bod yn cynyddu’r cyfleoedd i glywed am y materion sydd o bryder i chi.
Mae gan Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ddyletswydd i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau. Roedd datblygu’r Cynllun hwn yn gyfle i adnabod bylchau mewn meysydd o waith yr Awdurdod. Byddwn yn gwella ar y rhain er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a gyflwynir i gymunedau Dyfed-Powys yn deg ac yn gytbwys ar gyfer pawb.”
Cynllun Cydraddoldeb Sengl
I gefnogi’n ymroddiad tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth, mae’r Awdurdod wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Sengl, sy’n tanategu ethos plismona Dyfed-Powys. Mae’r penderfyniadau a wnawn, mewn ymgynghoriad â chi, yn effeithio’n wirioneddol ar fywydau ein pobl leol, ac mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl hwn, a’r Cynllun Gweithredu atodedig, yn amlygu sut y byddwn yn ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith datblygu polisi, yn ein harferion cyflogaeth, ac yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, a thrwy hynny'n helpu i adeiladu ffydd a hyder ein cymunedau a'n staff. Trwy weithio tuag at gyflawni'r holl gamau gweithredu a fanylir yn y Cynllun hwn, rydym yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi'r newidiadau deddfwriaethol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn llawn. I weld ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl a’r cynllun gweithredu cefnogol, cliciwch yma.
Grwpiau Hyder a Chydraddoldeb
Mae pob un o’r pedair sir o fewn ardal Dyfed-Powys wedi sefydlu Grwpiau Hyder a Chydraddoldeb. Mae’r grwpiau hyn yn cael eu trefnu gan yr heddlu ac fe’u mynychir gan Aelodau Awdurdod yr Heddlu ym mhob Sir.
Pwrpas y fforymau hyn yw sicrhau fod yr Heddlu yn clywed wrth y grwpiau hynny yn y gymuned sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli. Maent hefyd yn gyfle i drafod anghenion a datrys pryderon y gymuned.
Grŵp Ymgynghorol Annibynnol
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Grŵp Ymgynghorol Annibynnol Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ym mis Medi 2011. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i’r ddau sefydliad - dyma’r tro cyntaf iddynt sefydlu Bwrdd Ymgynghorwyr eu hun. Gallant ymgynghori â nhw ynghylch materion plismona a’u heffaith ar gymunedau amrywiol yn ein hardal plismona.
Mae’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn cynrychioli yn fras y cymunedau amrywiol a wasanaethir gennym o ran oed, rhyw, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith
Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae’r Grŵp yn cynnwys naw Ymgynghorydd, ac rydym yn gobeithio recriwtio mwy yn ystod digwyddiad cynefino ac asesu ym mis Tachwedd. Mae’r broses recriwtio ar gyfer y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn un teg a thryloyw. Gofynnir i’r ymgeiswyr gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y rôl. Caiff pob ymgeisydd ei fetio hyd at Fetio Personél sydd heb fod yn Heddlu (NPPV) Lefel 2, yn unol â Pholisi Fetio Cenedlaethol ACPO.
Bydd y Grŵp Ymgynghorol yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn ac yn gweithio o fewn cynllun cytunedig, gyda blaenoriaethau’n cael eu gosod gan Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i fod yn Aelod o’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol, cliciwch yma am ragor o wybodaeth a phecyn cais.
Stopio a Chwilio
Mae Awdurdod yr Heddlu yn gyfrifol am amlinellu hawliau pobl os yw’r heddlu byth yn eu stopio a’u chwilio.
Mae Stopio a Chwilio yn bŵer sydd gan yr heddlu, drwy’r gyfraith, a allai atal troseddu os yw'n cael ei ddefnyddio'n iawn. A wyddech chi, os cewch eich stopio a'ch chwilio, bod yna reolau y mae'n rhaid i'r heddlu eu dilyn? Gellir lawrlwytho taflenni sy’n esbonio’ch hawliau a rhestr o gwestiynau a ofynnir yn aml mewn perthynas â ‘stopio’ a ‘stopio a chwilio’ yma (PDF, 105KB)
Gellir lawrlwytho crynodeb o’ch hawliau yma (PDF, 100KB)