Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Praesept y Dreth Gyngor / Cyllideb ar gyfer 2012/13

Yn dilyn cyfarfod Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys heddiw, penderfynodd yr Aelodau’n unfrydol i gymeradwyo cyllideb 2012/13 sy’n arwain at braesept treth gyngor o £198.54 (ar gyfer eiddo Band D). Cynrychiola hyn gynnydd o 5%, neu £9.45 y flwyddyn, ar y lefel yn 2011/12, sy’n hafal i gynnydd o 18 ceiniog yr wythnos yn unig.

Wrth wneud y penderfyniad, cydnabu Aelodau’r Awdurdod yr amgylchiadau anodd iawn a’r ansicrwydd o ran y dyfodol a wynebir gan yr Heddlu yng ngoleuni toriadau digynsail yng nghyllideb y sector cyhoeddus.

Hefyd, roedd Aelodau’r Awdurdod yn sylweddoli bod aelodau’r cyhoedd yn wynebu amseroedd anodd, ac yn ymwybodol iawn o’r pwysau ar gyllidebau cartrefi. I’r perwyl hynny, dywedodd yr Aelodau ei bod hi’n bwysig fod aelodau’r cyhoedd yn cefnogi unrhyw benderfyniad i godi’r lefel praesept. Nododd yr Aelodau fod 70% o bron i 2000 o breswylwyr ar draws yr Ardal Heddlu a gafodd eu holi wedi nodi y byddent yn ‘barod iawn’ neu’n ‘eithaf parod’ i dalu hyd at 30 ceiniog yr wythnos yn fwy er mwyn diogelu’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Heddlu.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, Mrs Delyth Humfryes MBE:

“Yn yr amseroedd economaidd anodd hyn, roedd Aelodau Awdurdod yr Heddlu’n ofalus o ran ceisio cadw unrhyw gynnydd yn y praesept mor isel â phosibl gan hefyd sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i ddiogelu a chynnal plismona rheng flaen yn ein cymunedau. Yng ngoleuni’r pwysau ariannol sylweddol a osodwyd ar yr Heddlu, roedd cynnydd o 5% yn y lefel praesept ar gyfer 2012/13 yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad oedd effaith niweidiol ar y gwasanaeth plismona a ddarperir i breswylwyr Dyfed-Powys.”