Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Penodi Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd

Mae Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Poyws yn falch o gyhoeddi penodiad Mr Carl Langley fel eu Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd.

 

Bydd Mr Langley yn dod yn lle Mr Nick Ingram, sy’n ymddeol ym mis Mai 2012.

 

Cychwynnodd Mr Langley ei yrfa gyda Heddlu Dyfnaint a Chernyw cyn symud at Heddlu Swydd Lincoln yn 2008, lle y bu’n Brif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro ers mis Ionawr 2011, gyda chyfrifoldeb dros y portffolio Trosedd ac Ymgyrchoedd.

 

Dywedodd Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu,” Rwy’n falch dros ben y bydd Mr Langley yn ymuno â ni cyn hir. Mae ganddo gyfoeth o brofiad, a bydd yn gaffaeliad i’r tîm Prif Swyddogion.”

 

Dywedodd Mr Langley, sy’n hanesydd brwd yn ei amser hamdden ac yn hoff o gadw’n heini, “ Rwyf wrth fy modd mai fi sydd wedi fy mhenodi fel y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Newydd ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys. Wrth baratoi ar gyfer y broses recriwtio, cefais fy mhlesio’n fawr gydag ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff yr wyf wedi eu cyfarfod, ac rwy’n gyffrous fy mod yn cael y cyfle i fod yn rhan o dîm llwyddiannus sy’n cyflwyno plismona ardderchog i gymunedau Dyfed-Powys. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Awdurdod yr Heddlu er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus Heddlu Dyfed-Powys.”

 

Dywedodd Mr Ian Arundale, y Prif Gwnstabl, “Rwy’n falch iawn o groesawu Carl i’r tîm Prif Swyddogion. Mae’n swyddog profiadol a chymwys a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol sylweddol i blismona o fewn Dyfed-Powys.”