Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n ofynnol i Awdurdod yr Heddlu osod un neu fwy o Amcanion Cydraddoldeb er mwyn amlinellu sut y byddwn yn cyrraedd unrhyw nodau a osodir yn y “Dyletswydd Gyffredinol” (er mwyn dileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb cyfle, a meithrin perthnasau da). Bydd y ddyletswydd hon yn estyn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu o fis Tachwedd ymlaen.
Mae ymgynghori â’n cymunedau amrywiol yn hanfodol o ran ein helpu i sicrhau ein bod yn cwrdd â’n dyletswyddau statudol. Fe’ch croesawn i roi adborth drwy arolwg byr (cliciwch yma). Manylir ein rhesymau dros yr amcanion a gynigir o fewn ein dogfen ymgynghori (cliciwch yma).
Heb eich cyfraniad chi, byddai’n anodd i ni osod amcanion sydd wir yn adlewyrchu’r meysydd y angen eu gwella ar gyfer llywodraethu plismona ym marn ein cymunedau.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 29 Chwefror 2012.