Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Ystadegau trosedd a hyder y cyhoedd a gyhoeddwyd yn dangos bod Dyfed-Powys yn arweinwyr cenedlaethol

Mae ardal Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i fod yn un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio. Mae’r ffigyrau trosedd diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ar 20 Ionawr 2012 yn dangos bod cyfraddau trosedd yn ardal Dyfed-Powys cryn dipyn yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru a’r cyfartaledd ym Mhrydain.

Hefyd, cyrhaeddodd Heddlu Dyfed-Powys y brig yn genedlaethol am ymdrin â materion sy’n bwysig i bobl leol yn ôl ffigurau Arolwg Troseddu Prydain.

Dywedodd Delyth Humfryes M.B.E , Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, bod “y ffigyrau hyn yn adlewyrchu’r berthynas dda sydd gan swyddogion heddlu â chymunedau’r pedair sir y maent yn gwasanaethu”. Dywedodd ei bod hi’n “bwysicach fod asiantaethau partner yn gweithio gyda’i gilydd mewn cyfnod o galedi economaidd er mwyn cyflwyno canlyniadau i’r cymunedau am gost sy’n rhatach i’r trethdalwr.  

Mae Awdurdod yr Heddlu’n cyfarfod ar sail chwarterol ac yn craffu’n agos ar y canlyniadau a gyrhaeddir o fewn Dyfed-Powys ar ran y gymuned, ac mae’n galonogol nodi bod Dyfed-Powys yn arweinwyr cenedlaethol  mewn nifer o feysydd allweddol.”

Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i wefan yr Awdurdod: www.dyfedpowyspoliceauthority.co.uk