Fel rhan o gynllun i sefydlu Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol, cyhoeddwyd cynnig ar ddiwedd mis Hydref i gael gwared ar hofrennydd Heddlu Dyfed Powys gan ddarparu’r gwasanaeth o safle arall. Ni ymgynghorwyd ag Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ynghylch y cynnig hwn ar y pryd ac ni chafodd y mater ei drafod yn llawn. Heddiw, bu Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn ystyried adroddiad gan y Prif Gwnstabl yn ymwneud â’r cynnig. Cyflwynwyd rhai dadleuon cychwynnol ar lefel genedlaethol gan amlinellu rhai o’r pryderon ynghylch y cynllun - ond mae’r Awdurdod yn awr yn ystyried yn fanylach yr effaith ar Heddlu Dyfed-Powys a Chymru.
Mae’r Prif Swyddogion wedi mynegi eu pryderon yn ffurfiol ynghylch y gwasanaeth y byddai’r strwythur arfaethedig yn gallu ei gynnig i ardal mor eang a gwledig â hon, ac effaith y cynigion ar y sefydliad o gofio bod Awdurdod yr Heddlu wedi buddsoddi £1.52 miliwn yn ddiweddar ar ganolfan cymorth awyr newydd ym Mhen-bre.
Mae’r Tîm Prosiect Cenedlaethol wedi cynnig y gellid cynnwys awyren adenydd sefydlog fel rhan o’r Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol a fyddai’n ateb rhai o’r pryderon. Fodd bynnag, mae gan y cynnig hwn ei anfanteision megis anawsterau glanio ac ni fyddai awyren yn gallu hofran na chludo swyddogion arbenigol i ddigwyddiadau.
Meddai Delyth Humfreys, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys, “Mae gennym bryderon gwirioneddol ynghylch yr effaith y byddai cael gwared ar hofrennydd Heddlu Dyfed Powys yn ei gael er ardal Dyfed Powys. Mae ein hofrennydd cyfredol yn diwallu ein hanghenion yn dda iawn - ac fe’i defnyddir yn aml mewn digwyddiadau lle mae bywydau mewn perygl.
“Byddwn yn awr yn ysgrifennu at y Tîm Prosiect i leisio ein barn a thanlinellu’r ddadl gref o blaid cadw’r gwasanaeth hofrennydd yn ardal Dyfed Powys.”