Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Cyhoeddi’r Gyllideb

Datganiad gan Gadeirydd Awdurdod yr Heddlu, Delyth Humfryes:

Bydd y setliad ariannol dros dro a gyhoeddwyd heddiw yn golygu bod Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn wynebu gostyngiad ariannol o £7.012 miliwn neu 11.5% yn ei refeniw dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’n anochel y bydd toriadau o’r maint hwn yn newid y modd y darperir gwasanaethau plismona yn y dyfodol.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu bod y gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn wynebu toriadau llawer llymach na’n partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Bydd yn rhaid i ni wneud toriadau ariannol o 5.1% y flwyddyn nesaf o’i gymharu â’n partneriaid mewn llywodraeth leol fydd yn wynebu toriadau o 1.4%.

Yn dilyn dadansoddiad cychwynnol o’r cyhoeddiad, mae’n ymddangos bod y gronfa plismona gwledig wedi ei chynnwys yn fformiwla ariannu cyffredinol yr heddlu ac wedi’i hailddyrannu ar sail nifer y troseddau a’r digwyddiadau. Bydd hyn yn cael effaith anferth ar Heddlu Dyfed Powys yn y dyfodol, ac mae’r penderfyniad hwn yn diystyru’r pwysau ariannol ychwanegol sy’n gysylltiedig â phlismona ardal wledig eang.

Mae’r targed o ran sicrhau arbedion yn arswydus o heriol ac mae’n anochel y bydd materion lle mae bygythiad i fywyd a phlismona craidd yn cael mwy o sylw ar draul rhai o’r pethau eraill y mae’r Heddlu wedi gallu eu gwneud yn y gorffennol. Gan ystyried popeth, mae’r toriadau yn debygol o olygu y bydd rhwng 250 a 350 o swyddi yn cael eu colli. Nid oes modd sicrhau’r math hwn o ostyngiad yn y gyllideb heb gael gostyngiad sylweddol yn nifer yr heddweision a gyflogir.

Er gwaethaf ein hymdrechion fel Awdurdod, mae’n anochel, yn sgil y cyhoeddiad hwn heddiw y bydd rhaid i ragor o swyddi fynd (rydym eisoes wedi gwaredu 70 o swyddi) ac ni allwn ddiystyru’r posibilrwydd y bydd rhaid gwneud diswyddiadau gorfodol.