Mae’ch barn chi’n cyfrif!
Lleisiwch eich barn a gwnewch wahaniaeth i’ch cymuned.
Ymunwch ag Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, yr Heddlu a’u partneriaid, a helpu i ffurfio’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Trwy gydol mis Tachwedd, bydd Awdurdod yr Heddlu yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgynghorol cymunedol. Bydd Aelodau a Swyddogion o Awdurdod yr Heddlu yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn, yn ogystal ag Uwch Swyddogion o’r Heddlu. Mae rhai o’r cyfarfodydd yn gyfarfodydd ar y cyd. Bydd uwch gynrychiolwyr o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny.
Bydd y cyfarfodydd yn gyfle gwych i aelodau o’r cyhoedd ddylanwadu ar y blaenoriaethau ar gyfer Dyfed-Powys. Anogir preswylwyr lleol i ddweud eu dweud ynghylch amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
Dywedodd Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu:
“Mae eich barn yn bwysig iawn i ni a byddwn i’n annog pawb i gymryd yr amser i ymuno â ni a dweud eu dweud. Mae ymgynghori yn bwysig iawn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwrando ar safbwyntiau a phryderon aelodau o’r cyhoedd yn ystod y digwyddiad hwn er mwyn i ni allu sicrhau bod ein blaenoriaethau yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau.”
Anogir pob aelod o’r cyhoedd sy’n byw neu’n gweithio yn Nyfed-Powys i gymryd y cyfle hwn i gynorthwyo eu Hawdurdod Heddlu a’i bartneriaid i greu cymdeithas ddiogel, teg a goddefgar ar gyfer y rhai sy’n byw a gweithio yn yr ardal, a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal.
Cyfarfodydd Ymgynghorol Cymunedol Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys:
Ceredigion
Dyddiad: Dydd Iau 11eg Tachwedd 2010
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron
Amser: 6.45pm – 8.30pm
Mae hwn yn ddigwyddiad ymgynghorol ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion a’r Gwasanaeth Tân ac Achub
Powys
Dyddiad: Dydd Mawrth 16eg Tachwedd 2010
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 70B, Coleg Powys, Heol Llanidloes, Y Drenewydd
Amser: 6.45pm – 8.30pm
Mae hwn yn ddigwyddiad ymgynghorol ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys
Sir Gaerfyrddin
Dyddiad: Dydd Iau 18fed Tachwedd 2010
Lleoliad: Ystafell Lliedi, Canolfan Selwyn Samuel, Cil-y-Parc, Llanelli, SA15 3AE
Amser: 6.45pm – 8.30pm
Sir Benfro
Dyddiad: Dydd Llun 29ain Tachwedd 2010
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 2, Neuadd y Sir, Cyngor Sir Benfro, Hwlffordd
Amser: 6.45pm – 8.30pm