Hysbysir drwy hyn bod yr Archwiliad o Gyfrifon Awdurdod yr Heddlu wedi’i gwblhau am y flwyddyn sy’n diweddu ar yr 31ain o Fawrth 2010, a bod Datganiad o Gyfrifon yr Awdurdod a’r cyfrifon cryno ar gael i’w harchwilio yn Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, Pencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin.
Mae’r Datganiad o Gyfrifon a’r cyfrifon cryno hefyd ar gael ar wefan Awdurdod yr Heddlu - www.dyfedpowyspoliceauthority.co.uk
Mae’r dogfennau a nodir uchod ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd y Prif Swyddog Ariannol ym Mhencadlys yr Heddlu rhwng 9yb a 4yp, o dydd Llun i ddydd Gwener, gan unrhyw etholwr llywodraeth leol yn Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys, a gall unrhyw un o’r bobl hyn gymryd copi o’r dogfennau neu ran ohonynt, a bydd hawl ganddynt ofyn am gael copïau wedi’u hanfon atynt am dâl rhesymol fesul copi.
Dyddiedig: 18fed Tachwedd 2010
Mr A Bevan
Prif Swyddog Ariannol
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.