Gan gydnabod nad yw barn plant a phobl ifanc wastad yn cael “eu clywed” gan sefydliadau wrth iddynt geisio cynnwys y gymuned yn eu penderfyniadau, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio ei Strategaeth Plant a Phobl Ifanc. Croesawyd 12 cynrychiolydd o gefndiroedd amrywiol ynghyd â Swyddogion Cyfranogi o ardaloedd ar draws Dyfed-Powys i’r lansiad a gynhaliwyd ddydd Sadwrn yr 2il o Hydref. Roedd yn gyfle i ehangu eu gwybodaeth ynghylch pwy yw Awdurdod yr Heddlu a beth y maent yn ei wneud, a hefyd i ddweud wrth yr Awdurdod sut y gellir eu cynnwys yn y broses benderfynu yn y dyfodol.
Meddai Delyth Humfryes Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, “Y digwyddiad hwn oedd y cam cyntaf tuag at gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc trwy eu gwahodd i leisio’u barn am y gwasanaethau plismona a dderbynnir ganddynt. Mae plismona yn ardal Dyfed-Powys yn effeithio’r gymuned gyfan gan gynnwys plant a phobl ifanc. I sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, mae’r Awdurdod Heddlu wedi ymrwymo’n gadarn i ymgynghori ac ymgysylltu â’r gymuned gyfan fel rhan o’i broses benderfynu.
Yn ôl yr adborth a gafwyd ar y dydd, roedd y digwyddiad yn llwyddiant, fodd bynnag, mae’r Awdurdod am wneud mwy eto. Roedd lansio Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, y gellir ei weld ar wefan yr Awdurdod, yn gam cyntaf pwysig i’r cyfeiriad cywir, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn ymateb i’r hyn a fynegwyd ar y dydd ac hefyd i gynnal cyfleoedd ymgysylltu pellach, gan roi llais i blant a phobl ifanc ynghylch y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Rydym yn annog ac yn croesawu aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl, i fynychu unrhyw gyfarfodydd lleol megis PACT (Partneriaid a Chymunedau yn Cydweithio) a’r cyfarfodydd Ymgynghorol Cymunedol newydd, y bydd eu dyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn agosach at yr amser.”