Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Lleisiwch Eich Barn – ymunwch â’n Panel Dinasyddion

Ydych chi’n un o drigolion Dyfed-Powys? Oes gennych chi safbwyntiau cryf ynghylch y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn gan Awdurdod yr Heddlu, yr Heddlu, y Cyngor neu’r Gwasanaeth Iechyd?  Ydych chi am rannu’r safbwyntiau hynny? Mae’r Paneli Dinasyddion yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd wneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae tri Panel Dinasyddion wedi eu sefydlu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae Heddlu Dyfed-Powys ac Awdurdod yr Heddlu hefyd yn cysylltu â Phanel Dinasyddion Cyngor Sir Powys yn flynyddol.

Mae’r Paneli’n cynrychioli grwpiau o drigolion sydd wedi cytuno i gynnig eu safbwyntiau a’u barn. Gofynnir i aelodau’r Panel lenwi tri holiadur y flwyddyn drwy’r post neu ar-lein am y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan bartneriaid y Panel ym mhob sir. Yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae partneriaid y Panel yn cynnwys yr Heddlu (gan gynnwys Awdurdod yr Heddlu), y Cyngor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn un o bartneriaid Panel Dinasyddion Sir Benfro.

Bwriad y Panel yw darganfod beth yn union y mae’r bobl leol yn meddwl am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Mae pob partner yn cyfrannu tuag at y gost, gan wneud y Panel yn ddull cost-effeithiol ac effeithlon o glywed safbwyntiau a barn y trigolion.

Am wybodaeth bellach ynghylch y Paneli Dinasyddion, neu i gwblhau ffurflen recriwtio, ewch i dudalennau gwe’r Paneli Dinasyddion: