Derbyniodd Awdurdodau Cymru wobr Rhagoriaeth Cymru ar y 1af o Hydref yng nghategori ‘Prosiectau ar y Cyd’ mewn cydnabyddiaeth o’i strwythurau llywodraethu ardderchog ar gyfer rhaglen plismona cydweithredol Cymru.
Gwelodd Awdurdodau Heddluoedd Cymru a’r heddlu bod angen corff i fod yn gyd-atebol am gyflenwi rhaglenni, llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Ym mis Gorffennaf 2007, sefydlwyd Cydbwyllgor statudol dros blismona yng Nghymru, ac arwyddodd y pedwar Awdurdod Heddlu yng Nghymru i fod yn rhan ohono.
Sefydlwyd nifer o unedau cydweithredol Cymru gyfan i gyflenwi prosiectau plismona trawsffiniol i gymunedau Cymru. I gefnogi’r gydweledigaeth a chadarnhau’r ymrwymiad, cyhoeddwyd y Cynllun Plismona Cenedlaethol i Gymru ym mis Mawrth 2008, gan osod y blaenoriaethau strategol ar gyfer cydweithrediad yr heddlu. Roedd hyn yn dangos yn glir ymroddiad Awdurdodau Heddluoedd Cymru i ddarparu gwell gwasanaeth i gymunedau yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth arloesol sy’n gweithio gydag atebolrwydd tryloyw yn sicrhau bod plismona yng Nghymru yn parhau i wella mewn amgylchedd ariannol anodd.
Cynllun a gynhelir bob yn eilflwydd yw Rhagoriaeth Cymru. Cynllun gwobr ydyw sy’n cydnabod, dathlu a rhannu’r arferion gorau mewn gwasanaethau lleol, ac mae pob ymgeisydd yn derbyn asesiad trwyadl â meini prawf eang. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n cynnal Rhagoriaeth Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae manylion y rhai a ddaeth i’r brig ar gael trwy glicio ar y ddolen sy’n dilyn: http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/deunydd3/taflen-dathlu-llwyddiant-2010/