Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Cynllun Cydraddoldeb Sengl Awdurdod yr Heddlu

Mae’r Awdurdod yn bwriadu cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Sengl i ddisodli ei Gynlluniau Cydraddoldeb Anabledd, Hiliol a Rhyw presennol ym mis Ebrill 2011. Er ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y gyfraith gael Cynllun Iaith Gymraeg annibynnol, rydym yn bwriadu ymgorffori nodau Cynllun Iaith Gymraeg ar y cyd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys/Heddlu Dyfed-Powys (2010-2013) yn y Cynllun Cydraddoldeb Sengl.   

Er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn adlewyrchu safbwyntiau a barn y sawl sydd yn byw ac yn gweithio o fewn ein cymunedau mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, dymunwn eich gwahodd chi i gwblhau’r arolwg sydd ynghlwm. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y Cynllun yn cwrdd ag anghenion ein cymunedau ac yn eu cefnogi.  

Er mwyn ein cynorthwyo ni i gwrdd â’r nodau hyn, a fyddech gystal â chwblhau’r holiadur hwn erbyn 29ain Hydref 2010. Os oes angen fersiwn bapur o’r arolwg arnoch chi, ynghyd ag amlen ragdal, cysylltwch â’r rhif a ddarperir isod.  Os ydych chi’n cyflwyno’r holiadur trwy’r post, dychwelwch ef at Awdurdod yr Heddlu, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF. Bydd ymatebion yn effeithio ar y gweithrediadau a osodir o fewn y Cynllun. Mae’ch barn yn bwysig i ni a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cymorth.  Os oes angen y wybodaeth hon arnoch ar ffurf print bras, Braille, tâp sain neu ffurf arall, cysylltwch â’r Awdurdod ar 01267 226440. 

Noder: Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben.