Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Dweud eich Dweud ynghylch Diwygio’r Heddlu

Plismona yn yr 21ain ganrif: ailgysylltu’r heddlu a’r bobl

Mae’r Llywodraeth wedi cynnig nifer o newidiadau i blismona er mwyn cynyddu atebolrwydd yr heddlu.  Hoffwn glywed eich barn am y newidiadau hyn.

Cliciwch yma i gymryd rhan

Ar 26 Gorffennaf 2010, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y ddogfen ymgynghori ‘Plismona yn y 21ain Ganrif: ailgysylltu’r heddlu a’r bobl’.

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno amryw o gynigion ar gyfer dyfodol gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys diddymu Awdurdodau Heddlu a chyflwyno Comisiynwyr Heddlu a Throsedd sydd wedi’u hethol yn uniongyrchol.

Fel Awdurdod, nid ydym yn gwrthwynebu’r newid hwn ac rydym yn croesawu unrhyw gynnig a fydd yn gwneud gwasanaeth yr heddlu yn fwy atebol i’r cyhoedd.  Serch hynny, rydym am sicrhau bod unrhyw newidiadau a gyflwynir i’r system gyfredol yn fforddiadwy, yn arwain at welliannau gwirioneddol ac yn rhoi ystyriaeth i’r materion eraill a amlygir yn y papur hwn.

Gweler isod ddolen i’r papur ymgynghori a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref:

Plismona yn yr 21ain Ganrif: Ailgysylltu'r heddlu ar bobl