Hysbysir drwy hyn, yn unol ag Adran 29 a 30 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 2005:
- O’r 29ain Gorffenaf, 2010, tan y 25ain Awst, 2010 yn gynwysedig, rhwng 9.00 y.b. a 5.00 y.h. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9.00 y.b. a 4.30 y.h. ar ddydd Gwener, gall unrhyw un sydd â diddordeb, ar ôl gwneud cais i’r Prif Swyddog Ariannol ym Mhencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin, ddarllen a gwneud copïau o gyfrifon yr Awdurdod uchod am y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31ain Mawrth, 2010, ynghyd â phob llyfr, gweithred, cytundeb, taleb a derbynneb sy’n berthnasol i’r cyfryw gyfrifon.
- Am 10.00am ar ddydd Gwener y 26ain Awst, 2010, neu ar ôl hynny, hyd nes y cwblheir yr Archwiliad, bydd yr Archwilydd Penodedig Anthony Barrett o Swyddfa Archwilio Cymru, y gellir cysylltu ag ef yn 24, Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ, yn rhoi cyfle i unrhyw etholydd llywodraeth leol (neu ei gynrychiolydd) i’w holi am y cyfrifon ar gyfer ei ardal ef/ei hardal hi. Hefyd, gall unrhyw etholydd felly neu ei gynrychiolydd gyfarfod â’r Archwilydd er mwyn cyflwyno gwrthwynebiad i unrhyw ran o’r cyfrifon ar yr amod ei fod/bod wedi, cyn hynny, anfon hysbysiad ysgrifenedig o’r gwrthwynebiad at yr Archwilydd Penodedig ynghyd â chopi ohono ataf i.
Mr Andrew Bevan (CIPFA)
Prif Swyddog Ariannol
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF