Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor y Cynorthwyydd Llywio
Hygyrchedd

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. News and Updates
  3. 2010
  4. Gweithredu Ar Eich Rhan

Gweithredu Ar Eich Rhan

A ydych chi erioed wedi meddwl pwy sy’n craffu ar yr heddlu? Mae Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu ar ran preswylwyr ardal Dyfed-Powys drwy edrych ar bob peth y mae eich Heddlu’n ei wneud, gan sicrhau ei fod yn effeithlon ac yn effeithiol drwy graffu ar ei swyddogaethau.

Yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Cynllunio, Perfformio a Chraffu Awdurdod yr Heddlu cafwyd archwiliad manwl o’r modd yr oedd yr Heddlu wedi perfformio dros y chwarter diwethaf.

Roedd y canlyniadau’n gadarnhaol iawn a chafwyd bod meysydd a nodwyd gan y cyhoedd fel blaenoriaethau ar gyfer 2009/10 yn cael eu cyflawni i raddau helaeth. Cododd y nifer o droseddwyr a gafodd eu cyhuddo o fasnachu cyffuriau Dosbarth A 75% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd; gwelir hyn fel canlyniad cadarnhaol dros ben, gan fod cynnydd yn y nifer o droseddwyr a gyhuddwyd yn golygu bod yr Heddlu’n fwy rhagweithiol ac effeithiol wrth olrhain y rhai hynny sy’n gysylltiedig  â marchnata cyffuriau. Mae nifer y troseddau ‘trais yn erbyn yr unigolyn’ a gofnodwyd yn dilyn digwyddiadau cam-drin yn y cartref wedi disgyn 6.3%, ac mae nifer yr achosion o ymddygiad swnllyd, niwsans ac anystyriol a riportiwyd wedi disgyn 6.3%.

Adolygodd y Pwyllgor hefyd berfformiad yr Heddlu yn erbyn ei addewid i breswylwyr - yr Addewid Plismona. Un o’r meysydd ar gyfer gwella a nodwyd oedd lefelau bodlonrwydd dioddefwyr troseddau o ran pa mor hawdd yr oeddynt yn teimlo ydoedd i gysylltu â’r Heddlu. Sicrhawyd y Pwyllgor y byddai adnoddau ychwanegol yn cael eu defnyddio wrth hyrwyddo’r rhif di-frys 101 - a oedd nawr ar gael ar draws Cymru.

Holwyd aelodau’r Pwyllgor hefyd ynghylch gostyngiad ymddangosiadol o ran y niferoedd o bobl a oedd yn fodlon gyda lefel y wybodaeth a adborthir iddynt gan yr heddlu ar ôl i ddigwyddiad gael ei riportio. Pwysleisiodd yr Heddlu bod y prosesau’n cael eu datblygu i ganiatáu i’r dioddefydd ddod i gytundeb gyda swyddog heddlu penodedig ynghylch pa mor aml yr oeddynt yn dymuno i’r heddlu gysylltu â nhw. Yna byddai Awdurdod yr Heddlu yn monitro’r modd yr oedd y cytundeb hwn yn cael ei weithredu.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, cydnabuwyd bod trosedd yn gyffredinol i lawr 6.4% gyda nifer o fathau o drosedd yn is nag yn unrhyw le arall yng Nghymru a Lloegr.

Cododd cyfran y troseddau a ddatryswyd 3.6%, gan ddangos nid yn unig bod preswylwyr yn yr ardal yn llai tebygol o ddioddef trosedd, ond bod y troseddwyr hefyd yn fwy tebygol o gael eu dal a’u herlyn yn llwyddiannus, gyda lefel y troseddwyr a ddygir o flaen y llys yr uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio, Perfformio a Chraffu ddydd Mercher, y 19eg o Fai 2010 yn Swyddfa Awdurdod yr Heddlu, Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin. Mae’r cyfarfod hwn hefyd yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso mawr i aelodau o’r cyhoedd fod yn bresennol os ydynt yn dymuno.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y cyfarfodydd hyn a’r materion a drafodir, cysylltwch ag Awdurdod yr Heddlu ar 01267 226440 neu police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk

6/09/10 14:59