Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor y Cynorthwyydd Llywio
Hygyrchedd

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. News and Updates
  3. 2010
  4. Gwahoddiad i Chi Ddod i Siarad â Ni Gan Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Gwahoddiad i Chi Ddod i Siarad â Ni Gan Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Bydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal y cylch nesaf o Gyfarfodydd Ymgynghorol Cymunedol yn y man.

Bydd Heddweision ac Aelodau o Awdurdod yr Heddlu yn dod i’r cyfarfodydd hyn fydd yn cael eu cynnal ar draws ardal yr Heddlu yn ddiweddarach y mis hwn.  Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i ddod i leisio’ch pryderon a holi cwestiynau fel ein bod ni yn gallu sicrhau y darperir y gwasanaeth plismona gorau posib ar eich cyfer.

Mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn ymlaen o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd.   Maent yn gyfle i drigolion lleol a’n partneriaid glywed sut y mae’r heddlu yn y rhanbarth wedi perfformio yn erbyn y blaenoriaethau a bennwyd gan Awdurdod yr Heddlu ar gyfer 2009/10 yn dilyn ymarferion ymgynghori â’r cyhoedd. Bydd y cyfarfodydd hefyd yn gyfle i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a hefyd i gadarnhau’r gyllideb a’r praesept ar gyfer 2010/11, a gytunir yng nghyfarfod llawn nesaf yr Awdurdod ar y 15fed o Chwefror 2010.  Yn olaf, cynhelir sesiwn holi ac ateb pan gewch gyfle i drafod eich pryderon gydag Awdurdod yr Heddlu.

Meddai Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu:

“Awdurdod yr Heddlu yw’r corff sy’n dal yr Heddlu’n atebol ar ran ein cymunedau. Rhaid i ni sicrhau bod gennych wasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon sy’n ateb eich anghenion.

 “I’n galluogi i gynrychioli ein cymunedau mae angen i ni glywed eich barn chi. Rydym wedi trefnu cyfarfodydd ymhob rhanbarth yr Heddlu ac anogir pobl i ddod iddynt er mwyn rhoi eu barn ar sut y dylai Heddlu Dyfed-Powys weithredu yn y dyfodol.” 

Bydd pob cyfarfod yn cychwyn am 7pm ac mae’r manylion fel a ganlyn:

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth o gwbl am y cyfarfodydd, cysylltwch ag Awdurdod yr Heddlu ar  01267 226440 neu e-bostiwch police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk

6/09/10 14:59