Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn Ymrwymo i Gadw ei Addewid
Efallai bod aelodau’r cyhoedd wedi gweld y cyhoeddusrwydd cenedlaethol a roddwyd yn ddiweddar i’r Addewid Plismona. Mae’r Addewid Plismona yn cynnwys 10 o addewidion y mae pob Heddlu ledled Cymru a Lloegr wedi ymrwymo i’w cyflawni. Mae’r addewidion hyn yn ategu ymrwymiad yr Heddlu i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac ymatebol a thrin y cyhoedd gyda pharch ac urddas.
Ar ddydd Iau yr 17eg o fis Rhagfyr, cynhaliodd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ei gyfarfod chwarterol. Yn y cyfarfod, ystyriodd Awdurdod yr Heddlu nifer o eitemau fydd yn sicrhau bod y cyhoedd yn ardal Dyfed-Powys yn derbyn y gwasanaeth plismona gorau posib.
Yn y cyfarfod, penderfynodd Awdurdod yr Heddlu gyflwyno cynllun gweithredu fydd yn sicrhau bod yr Heddlu’n parhau i gwrdd â’r gofynion a nodir yn yr Addewid Plismona.
Bydd cynllun gweithredu newydd Awdurdod yr Heddlu yn monitro perfformiad yr Heddlu yn erbyn pob un o’r 10 addewid ac yn gweithio ar y cyd â’r Heddlu er mwyn adnabod meysydd lle mae angen gwelliant yn y dyfodol. Gall aelodau’r cyhoedd gyrchu gwybodaeth am sut y mae’r Heddlu’n perfformio yn erbyn pob un o’r pwyntiau yn yr Addewid Plismona ar wefan yr Awdurdod
Meddai Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu:
“Mae gan Awdurdod yr Heddlu ran allweddol i’w chwarae o ran sicrhau bod y cyhoedd yn ardal Dyfed-Powys yn derbyn y gwasanaeth gorau posib. Mae gan yr Awdurdod 19 Aelod sy’n gweithredu er lles y cyhoedd.
Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer craffu ar y modd y cyflawnir yr Addewid Plismona yn y dyfodol. Trwy gyfrwng mentrau megis hon, gallwn ddal yr Heddlu i gyfrif a sicrhau bod y cyhoedd yn cael y gorau o’u cyfraniad i Dreth y Cyngor.
Ar adeg o ansicrwydd economaidd, mae’n bwysig iawn bod Awdurdod yr Heddlu yn ychwanegu at werth plismona lleol ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn werth yr arian.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cyfarfod a’r materion a drafodwyd, cysylltwch ag Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ar 01267 226440 neu drwy e-bostio police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk.
Hafan