Awdurdod yr Heddlu yn Gwrando Ar Eich Pryderon
Rhwng y 19eg o Dachwedd a’r 3ydd o Ragfyr 2009, cynhaliodd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys 4 cyfarfod cyhoeddus ar draws ardal yr heddlu er mwyn clywed barn y cyhoedd am eu gwasanaeth plismona lleol. Cadeiriwyd y cyfarfodydd hyn, a gynhaliwyd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro gan Aelodau Awdurdod yr Heddlu, ac roedd y paneli yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod yr Heddlu ac Uwch Heddweision o bob rhanbarth.
Clywodd y cynulleidfaoedd gyflwyniadau gan Gomanderiaid yr Unedau Rheoli Sylfaenol ar sut y mae’r gwasanaeth heddlu lleol yn cyrraedd y safonau gwasanaeth a bennwyd yn yr Addewid Plismona. Rhoddwyd cyflwyniadau byr am gyllideb amcanol yr heddlu ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt, yn ogystal ag amlinelliad o sut y mae’r Awdurdod yn gosod y blaenoriaethau plismona ar gyfer yr Heddlu. Ar ôl clywed y cyflwyniadau, gwahoddwyd y gynulleidfa i holi’r panel.
Ymhob un o’r cyfarfodydd, gofynnodd y cynulleidfaoedd nifer o gwestiynau am faterion plismona rheng flaen, ac roedd yn amlwg yn sgil y trafodaethau mai eu prif flaenoriaethau oedd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu presenoldeb yr heddlu ar ein strydoedd.
Dywedodd Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu:
“Mae Awdurdod yr Heddlu yn falch iawn fod cynifer o aelodau’r cyhoedd wedi mentro allan yn y tywydd gwael er mwyn dod i’r cyfarfodydd i rannu eu barn am flaenoriaethau plismona a thrafod y materion sy’n achosi pryder iddynt.
“Mae Awdurdod yr Heddlu wedi nodi prif bryderon plismona pobl ar draws ardal Dyfed-Powys a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn y cyfarfodydd i’n cynorthwyo i osod blaenoriaethau plismona ffurfiol ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn ymddangos yn y Cynllun Plismona.
“Mae Treth y Cyngor a delir gan y cyhoedd yn helpu i dalu am blismona rheng flaen ac felly rydym am sicrhau fod y gwasanaeth yn adlewyrchu pryderon y bobl leol.”
Os hoffech chi gael gwybodaeth ychwanegol ynghylch y cyfarfodydd hyn a’r materion a drafodwyd ynddynt, cysylltwch ag Awdurdod yr Heddlu ar 01267 226440 neu e-bostiwch police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk
Hafan