Seminar Ymwelydd Lleyg Lles Anifeiliaid Heddlu Dyfed-Powys
Ddydd Mawrth y 29ain o Fedi cynhaliwyd seithfed Seminar Ymwelydd Lleyg Lles Anifeiliaid Heddlu Dyfed-Powys yn swyddfeydd Awdurdod yr Heddlu yn Llangynnwr. Agorwyd y digwyddiad gan Mrs Ann Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chysylltiadau Allanol, Mr Ken Howell, Cyn-gadeirydd y Pwyllgor, a’r Dirprwy Brif Gwnstabl Jackie Roberts.
Daeth gwirfoddolwyr Lles Anifeiliaid o’r gymuned leol, gweithwyr proffesiynol o sefydliadau Lles Anifeiliaid ac Aelodau Awdurdod yr Heddlu i’r digwyddiad. Diben y diwrnod oedd i Adran y Cŵn roi diweddariad ar ddatblygiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Cymeradwywyd yr Adran am dderbyn gwobr y Prif Gwnstabl i’r tîm gweithredol gorau. Rhoddodd y digwyddiad hefyd gyfle i Ymwelwyr Lleyg drafod eu gwaith ac awgrymu gwelliannau i amodau cartrefu, hyfforddi, cludo a defnyddio cŵn yr heddlu. Yn y prynhawn, ymwelodd aelodau’r seminar â chytiau’r cŵn a chyfarfod â nifer o’r cŵn a’r hyfforddwyr o fewn Adran y Cŵn.
Meddai Mrs Ann Williams:
“Roedd hwn yn ddiwrnod llwyddiannus a phleserus iawn a roddodd gyfle i bawb a oedd yn bresennol ddysgu am gyfraniad amhrisiadwy Adran y Cŵn i blismona yn ardal Dyfed-Powys. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd rôl Ymwelwyr Lleyg i’r Awdurdod wrth hyrwyddo lles y cŵn.”
Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Jackie Roberts:
“Dyma’r tro cyntaf i fi fod yn bresennol yn y seminar hwn ac rydw i wedi mwynhau diwrnod addysgiadol iawn. Creodd safon arbennig y cyfleusterau argraff fawr arnaf i. Mae’n hanfodol bod lles cŵn yr heddlu’n derbyn sylw â blaenoriaeth uchel ac mae’n bwysig iawn sicrhau’r cyhoedd bod cŵn yr heddlu’n cael y gofal gorau.”
Sefydlwyd y Cynllun Ymwelydd Lleyg Lles Anifeiliaid yn 2002 ac yn dilyn cynllun peilot yn Rhanbarth Powys gweithredwyd hyn ar draws ardal yr heddlu. Roedd hyn yn dilyn ymateb cenedlaethol i sicrhau bod cŵn a ddefnyddir yng ngwaith yr heddlu’n cael eu trin yn briodol.
Mae’r cynllun yn cynnwys gwirfoddolwyr a benodir o’r gymuned leol yn ymweld ag Adran y Cŵn ym mhob ardal yr Heddlu drwy ymweliadau dirybudd. Mae gwirfoddolwyr yn asesu pob agwedd o les y cŵn ac yna’n adrodd am unrhyw fater sy’n achos pryder i Awdurdod yr Heddlu sy’n cysylltu ag Adran y Cŵn i sicrhau bod hynny’n cael ei ddatrys. Tynnir sylw at y materion hyn mewn adroddiad blynyddol a welir ar ein gwefan.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr a phwysleisiodd werth anferth cŵn yr heddlu i waith plismona - o ddal troseddwyr i arbed bywydau pobl sydd ar goll. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Florence Louisa Lewis yn 1982 yn dilyn marwolaeth Florence Louisa Lewis a adawodd arian i Heddlu Dyfed-Powys yn ei hewyllys ar gyfer prynu a gofalu am gŵn yr heddlu. Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at y gronfa hon wneud hynny drwy gysylltu â’r Prif Weithredwr ar 01267 226440 neu police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk
Hafan