Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor y Cynorthwyydd Llywio
Hygyrchedd

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion a'r Wybodaeth Ddiweddaraf
  3. 2009
  4. Hanes yn Cael ei Greu Wrth i Heddlu Dyfed-Powys Benodi ei Brif Swyddog Benywaidd Cyntaf

Hanes yn Cael ei Greu Wrth i Heddlu Dyfed-Powys Benodi ei Brif Swyddog Benywaidd Cyntaf

llun mawr, 86kBMae Awdurdod a Heddlu Dyfed-Powys yn hapus i gyhoeddi penodiad Ms Jackie Roberts fel ei Dirprwy Brif Gwnstabl newydd.

Bydd Ms Roberts yn cymryd lle Mr Andy Edwards, sydd wedi’i benodi fel y Dirprwy Brif Gwnstabl cyntaf dros Gymru Gyfan.  Bydd Ms Roberts yn creu hanes o fewn yr heddlu gan mai hi yw’r ferch gyntaf i gael ei phenodi yn Brif Gwnstabl yn ardal Dyfed-Powys.

Dechreuodd Ms Roberts ei gyrfa gyda Heddlu De Cymru cyn symud i Heddlu Afon a Gwlad yr Haf, lle mae’n Brif Gwnstabl Cynorthwyol ar hyn o bryd.   Dywedodd Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, “Rwy’n hapus iawn fod Ms Roberts yn ymuno â ni cyn hir.  Mae ganddi brofiad helaeth iawn a bydd yn gaffaeliad gwerthfawr i dîm y Prif Swyddogion.”

Dywedodd Ms Roberts, "Rwyf wrth fy modd â’r penodiad ac rwy’n hapus iawn i ddod nôl i Gymru.  Mae Heddlu Dyfed-Powys yn sefydliad blaengar o’r radd flaenaf sy’n rhoi ei gymuned wrth galon plismona, ac rwy’n croesawu’r cyfle i fod yn rhan o’i ddyfodol.  Edrychaf ymlaen at weithio gydag Awdurdod yr Heddlu i sicrhau fod pobl Dyfed-Powys yn parhau i fwynhau gwasanaeth plismona penigamp."

Dywedodd Mr Ian Arundale, y Prif Gwnstabl, “Rwy’n falch dros ben o groesawu Jackie fel aelod o dîm y Prif Swyddogion. Mae’n swyddog profiadol a galluog iawn a fydd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol a chadarnhaol i blismona o fewn Dyfed-Powys.”

6/09/10 14:59