Rhyddid Gwybodaeth
Gwybodaeth sydd ar gael o dan y Cynllun Rhyddid Gwybodaeth
- Pwy Ydym Ni a Beth Rydym yn ei Wneud
- Faint Rydym yn ei Wario a Sut Rydym yn ei Wario
- Beth yw’n Blaenoriaethau a Sut Mae Pethau’n Mynd
- Sut Rydym yn Gwneud Penderfyniadau
- Ein Polisïau a’n Gweithdrefnau
- Rhestrau a Chofrestrau
- Y Gwasanaethau a Gynigiwn
Ynglŷn â Rhyddid Gwybodaeth
O 1af Ionawr 2005 mae modd i chi gael gwybod a yw Awdurdod yr Heddlu yn cadw gwybodaeth am unrhyw fater neu bwnc, drwy wneud cais. Os yw’r Awdurdod yn cadw’r wybodaeth y gofynnwch amdani, mae’n ddyletswydd arno i’w datgelu i chi.
Yn amodol ar rai eithriadau a nodir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dylai’r Awdurdod, fel rheol gyffredinol, gydymffurfio â’r cais am wybodaeth o fewn ugain diwrnod gwaith.
Mae’r awdurdod wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddiadau (PDF, 147 kB) sy’n amlinellu’r wybodaeth y mae’n ei chyhoeddi neu’n bwriadu ei chyhoeddi. Os ydych am gael gwybodaeth, fe’ch gwahoddir i ystyried y cynllun i weld a ellir ei ddefnyddio i ddarparu’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani. Mae manylion am sut y gellir cael gafael ar y wybodaeth sydd o fewn y cynllun hefyd ar gael yn y cynllun.
I gael rhagor o fanylion am y cynllun rhyddid gwybodaeth darllenwch ein Cynllun Cyhoeddiadau Rhyddid Gwybodaeth. Information on previous Freedom of Information requests and responses (PDF, 47 kB)
Gellir gwneud cais am wybodaeth nad yw’n cael ei chynnwys o fewn y cynllun:
Mr. K.B. ReevesPrif Weithredwr Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Ffacs: 01267 226448
E-bost: police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk
Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ynglŷn â sut i wneud cais, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth Awdurdod yr Heddlu ar: 01267 226440
Dylid gwneud pob cais yn ysgrifenedig, a gall hyn gynnwys trwy ffacs neu e-bost.
Mae’r awdurdod yn gobeithio ei fod yn ymdrin â cheisiadau am wybodaeth mewn modd priodol. Fodd bynnag, os bydd gennych achos i gwyno, dylech ysgrifennu at Brif Weithredwr yr Awdurdod.
Os na all cwyn gael ei datrys bryd hynny, caiff ei throsglwyddo i’r Awdurdod ei hystyried.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.
Hafan