Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff

Dydd Iau 17 Tachwedd 2011, 1:30pm
Swyddfeydd Awdurdod yr Heddly, Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin

Agenda

1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Datgan diddordebau.

Materion i’w penderfynu

3. Cadarnhau Cofnodion (crynodeb cyhoeddus) y cyfarfod a gynhaliwyd ar  13 Medi 2011.  

4. Ystyried log gweithredu cyfarfod 13 Medi 2011 (PDF,74KB).

5. Materion yn codi.

6. Ystyried materion yn codi o seminar Aelodau Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2011. 

7. Penderfynu eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod y saith eitem ganlynol yn cael eu trafod yn unol ag Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd y mae’n debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y disgrifir ym mharagraffau 12, 13, 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.  

8. Ystyried Cofnodion Eithriedig y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff a gynhaliwyd ar 13 Medi 2011. 

9. Derbyn y Polisi Rheoli Presenoldeb diwygiedig ar gyfer Staff a Swyddogion yr Heddlu.

10. Cymeradwyo’r Cynllun Taliadau Blaenoriaeth Arbennig.

11. Cymeradwyo Rheoli Gwyliau Blynyddol ar gyfer Swyddogion Heddlu o Rengoedd Ffederal.

Materion i’w trafod:

12. Ystyried diweddariad ar faterion yn ymwneud ag Adnoddau Dynol sydd yn cael eu hystyried o dan Ymgyrch SAGE, gan gynnwys: 

• Adolygiadau

• Cynllunio ar gyfer recriwtio, dyrchafiad ac olyniaeth 

• Gweithredu’r cynllun diswyddo gwirfoddol 

• Dosbarthu swyddi gwag

• Asesiadau Effaith Cydraddoldeb

13. Derbyn diweddariad mewn perthynas â thrafodaethau’r Undeb Llafur ynghylch Telerau ac Amodau ar gyfer Staff yr Heddlu.

14. Derbyn diweddariad am termau ac amodau a fydd yn debygol i fod yn berthnasol i’r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r tîm Uwch Swyddogion.

15. Ystyried adroddiad o fwriad yr Heddlu a’r Awdurdod i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010. (PDF, 99KB)

16. Ystyried adroddiad yn manylu’r mesurau a roddwyd ar waith gan yr heddlu i fynd i’r afael ag Aflonyddu ar sail Anabledd. (PDF, 93KB)

17. Ystyried adroddiad chwe-misol ar Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yr Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu. (PDF, 124KB)  

18. Ystyried adroddiad chwe-misol ar faterion Iechyd a Diogelwch yr Heddlu. (PDF, 135KB)(PDF, 522KB)

19. Ystyried adroddiad chwe-misol ar faterion Iechyd a Diogelwch Awdurdod yr Heddlu. (PDF, 88KB)(PDF, 89KB)

20. Ystyried adroddiad chwe-misol ar y Cwnstabliaeth Gwirfoddol. (PDF, 89KB)

21. Derbyn y cofnodion canlynol: 

a) Cyfarfod y Grŵp Cyswllt Staff a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2011; (PDF, 206KB)

b) Grŵp Hyder a Chydraddoldeb yr Heddlu a gynhaliwyd ar 1 Medi 2011. (PDF, 255KB)

Materion er gwybodaeth: 

22. Ystyried materion yn codi o’r adroddiadau amlygu mewn perthynas â:

  • Iechyd Galwedigaethol 
  • Rheoli Newid
  • Dysgu a Datblygu
  • Cysylltiadau Staff a Chanolfan Busnes Adnoddau Dynol

23. Derbyn diweddariad ynghylch Cyfraith Cyflogaeth. (PDF, 108KB) 

24. Adroddiadau’r Aelodau.

25. Materion Hil ac Amrywiaeth. 

26. Unrhyw faterion eraill yr ystyria’r Cadeirydd yn rai brys.

 

“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.

Noder os gwelwch yn dda:  Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog.  Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.