1. Penodi Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
2. Ymddiheuriadau.
3. Datgan diddordebau.
4. Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Materion i’w penderfynu
5. Cadarnhau Cofnodion (crynodeb cyhoeddus) y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 26ain o Fai 2011 (Dosbarthwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod yr Heddlu ar yr 20fed o Fehefin 2011).
6. Ystyried log gweithredu y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 26ain o Fai 2011(pdf 72KB).
7. Materion yn codi.
8. Nodi Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod (Dosbarthwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod yr Heddlu ar yr 20fed o Fehefin 2011) (pdf 88KB).
9. Penodi Aelodau i’r Grŵp Cyswllt i gyfarfod â chynrychiolwyr Grŵp Cymorth, Undeb Llafur a Chymdeithasau Staff.
10. Cymeradwyo polisi rheoli gweithredoedd diwydiannol y Llu (pdf 99KB + pdf 380KB).
11. Penderfynu eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod y 5 eitem ganlynol yn cael ei thrafod yn unol ag Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd y mae’n debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y disgrifir ym mharagraffau 12, 13 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
12. Ystyried Cofnodion Eithriedig y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyswllt Staff a gynhaliwyd ar y 26ain o Fai 2011
13. Ystyried adroddiadau’r Brif Swyddog Ariannol ynglyn â:
I. Pecyn Adleoli Diwygiedig Uwch Swyddogion yr Heddlu
II. Cais i estyn benthyciad – Prif Gwnstabl Cynorthwyol
Materion i’w trafod:
14. Derbyn diweddariad ar reoli absenoldebau oherwydd salwch
15. Derbyn diweddariad mewn perthynas ag arian gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu.
16. Ystyried diweddariad ar faterion yn ymwneud ag Adnoddau Dynol sydd yn cael eu hystyried o dan Ymgyrch SAGE, gan gynnwys:
• Adolygiadau
• Cynllunio ar gyfer recriwtio, dyrchafiad ac olyniaeth
• Gweithredu’r cynllun diswyddo gwirfoddol
• Dosbarthu swyddi gwag
• Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
• Strwythur Adnoddau Dynol
17. Ystyried materion yn codi o’r adroddiadau amlygu mewn perthynas â: (dosbarthwyd eisoes)
• Iechyd Galwedigaethol
• Cyflwyno Gwasanaethau
• Adnoddau Gweithwyr
• Dysgu a Datblygu
• Cysylltiadau Staff a Chydraddoldeb
18. Derbyn adroddiad monitro chwe-misol ar berfformiad yn erbyn Targedau Cyflogaeth. (pdf 86KB).
19. Derbyn diweddariad ynghylch gweithredu proses Adolygiad o Ddatblygiad Personol yr Heddlu. (pdf 152KB).
20. Derbyn gwybodaeth mewn perthynas â Chynllun Hyfforddiant y Llu ar gyfer 2011/12 (pdf 127KB).
21. Derbyn adroddiad ar Grwp Rheoli Adnoddau’r Llu (pdf 113KB).
22. Derbyn diweddariad mewn perthynas ag adolygiad yr Heddlu o’r System Rota Swyddogion (pdf 134KB).
23. Ystyried adroddiad monitro chwe-misol mewn perthynas â chyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Sengl yr Awdurdod. (pdf 100KB + pdf 261KB).
24. Ystyried adroddiad monitro chwe-misol mewn perthynas â chyflwyno Cynllun Iaith Gymraeg yr Awdurdod. (pdf 2.84MB).
Materion er gwybodaeth:
25. Derbyn diweddariad ynghylch Cyfraith Cyflogaeth (pdf 110KB).
26. Derbyn y cofnodion canlynol:
a) Yr Is-bwyllgor Safonau Proffesiynol a gynhaliwyd ar y 1af o Awst 2011.(pdf 156KB).
b) Yr Is-bwyllgor Penodiadau a Thaliadau a gynhaliwyd ar yr 11eg o Orffennaf 2011. (pdf 226KB).
c) Cyfarfod y Grŵp Cyswllt Staff a gynhaliwyd ar yr 28ain o Orffennaf 2011. (pdf 205KB).
d) Grŵp Hyder a Chydraddoldeb yr Heddlu a gynhaliwyd ar y 5ed o Orffennaf 2011. (pdf 258KB).
27. Penderfynu eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod yr eitem ganlynol yn cael ei thrafod yn unol ag Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd y mae’n debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y disgrifir ym mharagraffau 12, 13 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
28. Derbyn cofnodion y pwyllgorau canlynol:
a). Is-bwyllgor Penodiadau a Thaliadau a gynhaliwyd ar yr 11eg o Orffennaf 2011
b). Is-bwyllgor Safonau Proffesiynol a gynhaliwyd ar 1af Awst 2011
29. Adroddiadau’r Aelodau.
30. Materion hil ac amrywiaeth.
31. Unrhyw faterion eraill yr ystyria’r Cadeirydd yn rai brys.
“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.
Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.