Mae Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn ymroddedig i gydweithio er mwyn gwella ansawdd a helaethrwydd ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol. Mae’r ddogfen hon yn ategu Strategaeth Heddlu ar gyfer Canolbwyntio ar y Dinesydd gan ragosod y nodau a blaenoriaethau strategol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori cymunedol y bydd yr Heddlu a’r Awdurdod yn gweithio tuag atynt yn ystod y tair blynedd nesaf. Rhoddir hyn yn ei gyd-destun gan ddatblygiadau’n genedlaethol, gan gynnwys yr Adolygiad Plismona Annibynnol ac Arolygaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi
(ACEM) a’r Papur Gwyrdd Plismona a’i dilynodd. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’n glir sut y bydd blaenoriaethau’n cael eu cyflenwi, pwy fydd yn gyfrifol am wneud hyn a sut y bydd cynnydd yn cael ei fonitro.
Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog. Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.