Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor y Cynorthwyydd Llywio
Hygyrchedd

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Dweud eich Dweud
  3. Mesur Hyder Sengl

Mesur Hyder Sengl

Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed ar gyfer pob heddlu er mwyn codi hyder y cyhoedd bod yr heddlu a’r cyngor lleol yn ymdrin â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n bwysig yn lleol.

Dyma gyfran y bobl a oedd yn rhan o’r arolwg a oedd yn cytuno bod yr heddlu a’r cyngor lleol yn ymdrin â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n bwysig yn eu hardal. Rôl Awdurdod yr Heddlu yw monitro a chraffu ar berfformiad yn ôl meini prawf. Gwneir hyn drwy Bwyllgor Cynllunio, Perfformio a Chraffu’r Awdurdod. Mae gan yr Awdurdod hefyd Aelodau sy’n eistedd ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac sy’n weithredol yn annog gweithredu mewn partneriaeth er mwyn cyfrannu at y mesur hwn.

Ardal Cyfran
Sir Gaerfyrddin 39%
Ceredigion   38%
Sir Benfro 37%
Powys 35%

Dyma ganlyniadau arolwg dull cymysg a gynhaliwyd yn yr ardal hon a oedd yn gofyn i bobl leol a oeddent yn cytuno a’r gosodiad:

“Mae’r heddlu a’r cyngor lleol yn ymdrin â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sy’n bwysig yn yr ardal hon”.

Dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau rhwng dangosyddion lleol sydd wedi defnyddio technegau arolwg gwahanol1.

1Mae’r arolwg hwn wedi ei seilio ar hapsampl o bobl yn yr ardal leol. Y bwriad wrth ddefnyddio hapsampl yw sicrhau bod y canlyniadau yn ystadegol gynrychiadol o’r boblogaeth leol. O gymharu ag amcangyfrifon eraill ynghylch cyfansoddiad y boblogaeth, gallai’r sampl ar gyfer yr arolwg hwn dangynrychioli rhai is-grwpiau.

6/09/10 14:59