Dweud eich Dweud
Rhaid i’r Awdurdod sicrhau bod trefniadau boddhaol ar waith i gael barn y cyhoedd am blismona yn Nyfed Powys ac i ennyn cydweithrediad y cyhoedd gyda’r heddlu er mwyn atal troseddau. Yn ardal Dyfed-Powys, mae hyn yn digwydd mewn amrywiol ffyrdd.
Canfyddiadau
Sut Rydym yn Ymgynghori
- Cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Plismona Blynyddol, y Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau a’r Cynllun Effeithlonrwydd.
- Ymgynghori’n flynyddol gyda Chynghorau Tref a Chymuned i gael eu barn am flaenoriaethau plismona lleol.
- Mae’r Awdurdod hefyd yn cynnal cyfarfodydd ymgynghori cyhoeddus yn y 9 ardal a arferai fod yn ardaloedd cyngor dosbarth ar draws yr Heddlu er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn am blismona yn eu hardal nhw. Mae Aelodau o’r Awdurdod ac uwch swyddogion heddlu lleol yn mynychu’r cyfarfodydd i ateb cwestiynau.
- Ymgynghorir gyda dioddefwyr troseddau, dioddefwyr digwyddiadau hiliol, a phobl sy’n hysbysu’r heddlu o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unol â Chanllawiau’r Swyddfa Gartref.
- Mae Paneli Dinasyddion wedi cael eu sefydlu ym mhob sir yn Nyfed Powys. Gweler y tudalennau ar y paneli dinasyddion ar wefan yr heddlu ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
- Ymgynghorir hefyd ar draws yr heddlu drwy’r ‘Grwpiau Ffocws Rhithwir’ lle y caiff holiaduron eu hanfon at Banel o wirfoddolwyr yn gofyn barn pobl am faterion cyfoes o bwys. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Grwpiau Ffocws Rhithwir e-bostiwch y cydlynydd.
- Bob blwyddyn (fel arfer yn ystod misoedd yr haf) mae swyddogion yn ymweld â siopau ac yn gwahodd cymunedau i gwblhau holiadur ar faterion sy’n berthnasol i’r Heddlu a’r Awdurdod yn cynnwys pennu blaenoriaethau a boddhad gyda’r gwasanaeth.
Mae’r Awdurdod hefyd yn croesawu eich cyfraniad tuag at bennu blaenoriaethau – llenwch ein holiadur ar-lein.
Hafan