Rhaid i’r Awdurdod sicrhau bod trefniadau boddhaol ar waith i gael barn y cyhoedd am blismona yn Nyfed Powys ac i ennyn cydweithrediad y cyhoedd gyda’r heddlu er mwyn atal troseddau. Yn ardal Dyfed-Powys, mae hyn yn digwydd mewn amrywiol ffyrdd.
Sut Rydym yn Ymgynghori
- Cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Plismona Blynyddol, y Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau a’r Cynllun Effeithlonrwydd.
- Ymgynghori’n flynyddol gyda Chynghorau Tref a Chymuned i gael eu barn am flaenoriaethau plismona lleol.
- Mae’r Awdurdod hefyd yn cynnal cyfarfodydd ymgynghori cyhoeddus yn y 9 ardal a arferai fod yn ardaloedd cyngor dosbarth ar draws yr Heddlu er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn am blismona yn eu hardal nhw. Mae Aelodau o’r Awdurdod ac uwch swyddogion heddlu lleol yn mynychu’r cyfarfodydd i ateb cwestiynau.
- Ymgynghorir gyda dioddefwyr troseddau, dioddefwyr digwyddiadau hiliol, a phobl sy’n hysbysu’r heddlu o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unol â Chanllawiau’r Swyddfa Gartref.
- Mae Paneli Dinasyddion wedi cael eu sefydlu ym mhob sir yn Nyfed Powys. Gweler y tudalennau ar y paneli dinasyddion ar wefan yr heddlu ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
- Ymgynghorir hefyd ar draws yr heddlu drwy’r ‘Grwpiau Ffocws Rhithwir’ lle y caiff holiaduron eu hanfon at Banel o wirfoddolwyr yn gofyn barn pobl am faterion cyfoes o bwys. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Grwpiau Ffocws Rhithwir e-bostiwch y cydlynydd.
- Bob blwyddyn (fel arfer yn ystod misoedd yr haf) mae swyddogion yn ymweld â siopau ac yn gwahodd cymunedau i gwblhau holiadur ar faterion sy’n berthnasol i’r Heddlu a’r Awdurdod yn cynnwys pennu blaenoriaethau a boddhad gyda’r gwasanaeth.
Mae’r Awdurdod hefyd yn croesawu eich cyfraniad tuag at bennu blaenoriaethau – llenwch ein holiadur ar-lein.
Gwneud cwyn
Am bwy y gallaf wneud cwyn i Awdurdod yr Heddlu? Gallwch wneud cwyn i Awdurdod yr Heddlu am:
1. Brif Swyddogion yr Heddlu
2. Aelodau Awdurdod yr Heddlu
3. Swyddogion (Staff) Awdurdod yr Heddlu
Sut allaf wneud cwyn?
Cliciwch yma am fwy o manylion ar sut i wneud cwyn.
Riportiwch Droseddau Casineb
![]()
Mae Troseddau Casineb yn cael effaith andwyol ar ein cymdeithas.
Mae’n effeithio, nid yn unig ar y dioddefydd, ond ar eu teuluoedd a’u ffrindiau ac unrhyw un sy’n dyst i’r digwyddiad. Mae nifer o aelodau o grwpiau lleiafrifol yn dioddef y math hyn o ddigwyddiadau sy’n gallu amrywio o gam-drin ar lafar i gamdriniaeth gyson a systematig a hyd yn oed llofruddiaeth, dim ond oherwydd eu bod yn wahanol i bobl eraill.
Yn anffodus, mae troseddau casineb yn parhau i beidio â chael eu riportio yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
Mae Troseddau Casineb yn cynnwys:
- Troseddau casineb/aflonyddu yn ymwneud ag anabledd
- Troseddau casineb/aflonyddu hiliol
- Troseddau casineb/aflonyddu homoffobig
- Troseddau casineb/aflonyddu trawsffobig
- Troseddau casineb/aflonyddu yn ymwneud â chrefydd/ffydd
Sefydlwyd gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un i riportio troseddau casineb – boed yn ddioddefydd, tyst neu drydydd parti. Gellir gwneud hyn ar-lein ar www.saferwales.com neu drwy ffurflen gais sydd ar gael ar draws Cymru.
I riportio troseddau casineb, cliciwch yma.