Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol, 27ain Ebrill 2010

Dydd Mawrth 27 Ebrill 2010, 2:00pm
Ystafell 4 Ceredigion, Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
  2. Datgan buddiannau.
  3. Cadarnhau Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 9fed Chwefror 2010.
  4. Materion sy’n codi.

Materion i’w penderfynu/hysbysu:

  1. Derbyn cyflwyniad ynghylch system Archwilio 3AMI.
  2. Ystyried adroddiad llywodraethu’r Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau (doc, 83 kB) , gan gynnwys:
    1. Cronfa’r URhS – Canllawiau newydd ar gyfer 2010/11
    2. Ystadegau CIPFA - Memorandwm ychwanegol am Gostau Awdurdod yr Heddlu
    3. Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Newid) 2010
    4. Rhyddid Gwybodaeth (FOI)
    5. Diweddariad ynghylch y Strategaeth Ystadau
    6. Diweddariad ynghylch Caffael
    7. Diweddariad ynghylch Systemau a Thechnoleg Gwybodaeth
  3. Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr ynghylch:
    1. Y trefniadau ar gyfer adolygu Cynllun Treuliau a Lwfansau’r Aelodau (doc, 30 kB)
    2. Strategaeth Gaffael Cymru Gyfan.
  4. Penderfynu atal y Cyhoedd a’r Wasg o’r cyfarfod tra bod y dair eitem ganlynol yn cael eu trafod gan ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth a eithrir dan baragraffau 12, 13 ,14  o Ran 4 o Atodlen 12A  Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn cael ei datgelu.
  5. Ystyried cydadroddiad eithriedig y Prif Swyddog Ariannol a’r Prif Weithredwr ynghylch cytundeb gwasanaethau ymgynghori ariannol.
  6. Ystyried adroddiad eithriedig y Prif Weithredwr ynghylch apêl gan aelod o Staff yr Heddlu ynglŷn â chais am seibiant gyrfa.
  7. Ystyried diweddariad geiriol gan y Prif Swyddog Ariannol ynghylch adolygiad cyflog y cyn Drysorydd.

Materion er gwybodaeth:

  1. Materion Hil ac Amrywiaeth.
  2. Unrhyw faterion eraill a ystyrir yn faterion brys gan y Cadeirydd.

“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.

Noder os gwelwch yn dda:  Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog.  Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.