Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Ffôn: 01267 226440
Ffacs: 01267 226448

Page Content Starts Here

Pwyllgor Adnoddau Ymgysylltu â’r Gymuned a Chysylltiadau Allanol, 30ain o Dachwedd 2010

Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2010, 2:00pm
Ystafell Gynadledda Awdurdod yr Heddlu, Swyddfeydd Awdurdod yr Heddlu, Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin

Agenda

  1. Ymddiheuriadau am absenoldeb
  2. Datgan buddianau.
  3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 1af o Fedi 2010 (a ddosbarthwyd yng nghyfarfod Awdurdod yr Heddlu ar yr 20fed o Fedi 2010).
  4. Materion yn codi

D.S. Fe fydd yr aelodau wedi sylwi bod yr agenda wedi’i rannu’n “Materion i’w penderfynu” a “Materion er gwybodaeth”. Atgoffir yr aelodau bod angen trafod y “Materion i’w penderfynu” yn fanwl tra bod y “Materion er gwybodaeth” yno yn syml er gwybodaeth yr Aelodau. Nid oes angen trafod y “Materion er gwybodaeth” heblaw bod yr Aelodau/Heddlu yn dymuno codi rhyw bwyntiau perthnasol yn ymwneud â’r eitem; os na fydd angen trafodaeth gellir nodi’r eitem yn briodol at ddibenion y cofnodion.

Materion i’w penderfynu/trafod:

  1. Ystyried materion yn codi o seminar Aelodau Ymgysylltu â’r Gymuned a Chysylltiadau Allanol a gynhelir ar y 30ain o Dachwedd.
  2. Ystyried Strategaeth Partneriaeth Awdurdod yr Heddlu (doc, 72kb).
  3. Ystyried adroddiad monitro perfformiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa a chrynodeb o’r prif flaenoriaethau a’r camau a gymerwyd gan yr Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu (doc, 168kb).
  4. Ystyried canlyniadau ymgynghoriad Awdurdod yr Heddlu ar gyfer y flwyddyn flaenorol mewn perthynas â sefydlu blaenoriaethau plismona (doc, 168kb)

Materion er gwybodaeth:

  1. Penderfynu gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes nesaf yn unol ag adran 100A (4) o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth wedi ei heithrio fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 Rhan 4 Atodiad 12A o’r Ddeddf.
  2. Ystyried yr Adroddiad Cenedlaethol Cloriannu Plismona Bro ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys (i’w ddilyn).
  3. Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â data Stopio a Chwilio / Stopio a Rhoi Cyfrif (doc, 88kb).
  4. Derbyn diweddariad ar y Pwyllgorau Craffu Cyfiawnder Cymdeithasol a Throsedd ac Anhrefn (Eitem llafar).
  5. Derbyn diweddariad am y cynnydd a wnaed yn unol â Strategaeth Cysylltiad Cymunedol yr Awdurdod (doc, 72kb)
  6. Derbyn adroddiad ar weithredu rhaglen waith Canolbwyntio ar y Dinesydd yr Heddlu, gan ffocysu ar y prif flaenoriaethau (Eitem llafar).
  7. Derbyn diweddariad ynghylch cysylltiad yr Heddlu â Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaethau eraill (i’w ddilyn).
  8. Derbyn cyfarwyddyd ar
  9. Derbyn diweddariad ynghylch Fframwaith Asesu Awdurdod yr Heddlu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (doc, 72kb)
  10. Derbyn diweddariad ynghylch lansiad Strategaeth Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar yr 2il o Hydref 2010 (doc, 80kb).
  11. Derbyn cyfarwyddyd ar faterion perthnasol yn deillio o gyfarfodydd Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc (doc, 56kb).
  12. Derbyn adroddiad monitro ar y Cynllun Ymwelydd Lleyg Lles Anifeiliaid a diweddariad ar y Seminar Ymwelydd Lleyg Lles Anifeiliaid Blynyddol a gynhaliwyd ar y 27ain o Fedi 2010 (doc, 136kb).
  13. Derbyn Adroddiadau’r Aelodau:
  14. Materion hil ac amrywiaeth
  15. Unrhyw faterion eraill a ystyrir yn rhai brys gan y Cadeirydd

“Sicrhau diogelwch y cymunedau a’r unigolion yn ardal Dyfed-Powys a’u hyder yn yr Heddlu”.

Noder os gwelwch yn dda:  Nid yw’r holl bapurau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog.  Cysylltwch â swyddfa Awdurdod yr Heddlu drwy ffonio 01267 226440 neu anfonwch e-bost at police.authority@dyfed-powys.pnn.police.uk os ydych yn dymuno cael dogfen Gymraeg.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.