Côd Ymarfer
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi Côd Ymarfer Enghreifftiau y mae gofyn i Awdurdodau’r Heddlu fabwysiadau. Mae pob darpariaeth y Côd Ymarfer yn orfodol a rhaid eu cynnwys yn y Côd a fabwysiadir gan yr Awdurdod. Mae Awdurdodau felly’n rhydd i ychwanegu darpariaethau i’r Côd ond ni allant hepgor dim. Mae hyn yn anffodus gan fod y Côd Enghreifftiol yn anghywir o ran Awdurdodau Heddluoedd Cymru gan ei fod yn nodi ym mharagraff 2,7 fod yn rhaid i aelod sy’n dod yn ymwybodol o achos posibl o dorri’r Côd gan aelod arall wneud cyhuddiad ysgrifenedig i Fwrdd Safonau Lloegr. Mewn gwirionedd mae achosion o’r fath o dorri’r Côd gan aelodau Awdurdodau Heddluoedd Cymru yn cael eu hymchwilio gan Ombwdsmon y Llywodraeth Leol.
Penderfynodd yr Awdurdod yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror 2002 y dylid cynnwys darpariaethau ychwanegol hyd nes ei fod yn derbyn cyngor o’r Pwyllgor Safonau Moesegol, ac y dylid mabwysiadau’r Côd Enghreifftiol fel y nodir isod yn amodol ar ychwanegu’r geiriau a nodir mewn print bras ym mharagraff 2.7.
Darpariaethau Cyffredinol
Cwmpas
2.1.
- Rhaid i aelod gadw at Gôd Ymarfer yr Awdurdod pryd bynnag y bo’n -
- Cyflawni gwaith yr Awdurdod;
- Cyflawni gwaith y swyddfa y penodwyd ef/hi iddo; neu’n
- Gweithredu fel cynrychiolydd yr Awdurdod
a dehonglir cyfeiriadau at rinwedd swyddogol aelod yn unol â hynny.
- Ni fydd Côd Ymddygiad yr Awdurdod, ac eithrio fel y nodir ym mharagraffau 2.4 a 2.5 (a) isod, yn berthnasol i weithgareddau a gyflawnir gan yr aelod y tu allan i’w swydd fel aelod.
- Lle y mae’r aelod yn gweithredu fel cynrychiolydd yr Awdurdod –
- ar Awdurdod perthnasol arall (a), rhaid iddo/iddi, wrth weithredu ar ran yr Awdurdod arall hwnnw, gydymffurfio â Côd Ymddygiad yr Awdurdod hwnnw; neu
- ar unrhyw gorff arall, rhaid iddo/iddi, wrth weithredu ar ran y corff arall hwnnw, gydymffurfio â Côd Ymddygiad yr Awdurdod (a), ac eithrio ac i’r graddau ei fod yn gwrthdaro ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a roddir ar y corff arall hwnnw.
- Yn y Côd hwn, mae ‘aelod’ yn cynnwys aelodau cyfetholedig o Awdurdod. Ni fydd Côd.
Rhwymedigaethau Cyffredinol
2.2.
Rhaid i aelod -
- hyrwyddo cydraddoldeb trwy beidio â gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn unrhyw berson;
- drin eraill â pharch; a
- pheidio â gwneud unrhyw beth sydd yn peryglu amhleidioldeb, neu sy’n debygol o beryglu amhleidioldeb swyddog heddlu neu unrhyw un sy’n gweithio i’r Awdurdod neu ar ei ran.
2.3.
Ni ddylai aelod –
- ddatgelu gwybodaeth a roddwyd iddo/iddi yn gyfrinachol gan unrhyw un, neu wybodaeth a gafwyd ac y credir sy’n gyfrinachol, heb ganiatâd person a awdurdodir i roi’r caniatâd, neu oni fydd yn ofynnol, o dan y gyfraith, i’w datgelu; na
- rwystro person arall rhag cael mynediad i unrhyw wybodaeth y mae gan y person hwnnw, o fewn y gyfraith, hawl i’w gyrchu.
2.4.
Ni ddylai aelod, naill ai yn rhinwedd ei swydd, neu o dan unrhyw amgylchiadau eraill, ymddwyn mewn modd a allai yn rhesymol arwain pobl i ystyried ei fod/bod yn dwyn anfri ar ei swydd neu ar yr Awdurdod.
2.5.
- Ni ddylai aelod naill ai yn rhinwedd ei swydd, neu o dan unrhyw amgylchiadau eraill, gamddefnyddio ei aelodaeth er mwyn sicrhau mantais neu anfantais naill ai iddo ef/iddi hi ei hun neu unrhyw berson arall; a
- rhaid i aelod, wrth ddefnyddio neu awdurdodi eraill i ddefnyddio adnoddau’r Awdurdod –
- weithredu yn unol â gofynion yr Awdurdod; a
- sicrhau na ddefnyddir adnoddau felly at bwrpas gwleidyddol onid ellir yn rhesymol ystyried bod eu defnydd yn debygol o hyrwyddo, neu hwyluso gwaith yr Awdurdod neu unrhyw swydd yr etholwyd neu y penodwyd yr aelod i’w gyflawni.
2.6.
Wrth wneud penderfyniadau, rhaid i aelod ystyried unrhyw gyngor perthnasol a roddir iddo/iddi gan –
- Brif Swyddog Cyllid yr Awdurdod sy’n cyflawni ei ddyletswyddau yn unol ag Adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(b); a
- Swyddog Monitro’r Awdurdod sy’n cyflawni ei ddyletswyddau yn unol ag Adran 5(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(a).
2.7.
Rhaid i aelod, sy’n ymwybodol o unrhyw Ymddygiad gan aelod arall, y mae’n credu’n rhesymol sydd yn groes i’r Côd Ymddygiad, gyflwyno honiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i Fwrdd Safonau Lloegr a Chomisiwn Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol i wneud hynny.
Datgan Buddiannau
Diddordeb/Cyswllt Personol
2.2.
- Rhaid i aelod ystyried bod ganddo ddiddordeb personol mewn mater os yw’r mater hwnnw yn gysylltiedig ag un o’r diddordebau y mae’n ofynnol o dan baragraffau 13 a 14 isod, i’w datgan, neu os gellir yn rhesymol ystyried bod penderfyniad yn ei gylch yn mynd i gael effaith mwy ffafriol ar les neu sefyllfa ariannol yr aelod, neu berthynas neu ffrind iddo/iddi nag ar drethdalwyr neu drigolion eraill yn ardal yr Awdurdod neu –
- unrhyw waith neu fusnes a gyflawnir gan bobl felly;
- unrhyw berson sy’n cyflogi neu sydd wedi penodi pobl felly, unrhyw gwmni y maent yn bartner ynddo, neu unrhyw gwmni y maent yn gyfarwyddwyr arno;
- unrhyw gorff corfforaethol y mae gan bobl felly ddiddordeb buddiannol ynddo ar ffurf gwarannau sydd â gwerth enwol o fwy na £5,000; neu
- unrhyw gorff a restrir yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff 2.14 isod y mae’r bobl hyn yn gyfrifol amdano neu yn dal swydd reoli ynddo.
- mae ‘perthynas’ yn golygu, priod, partner, rhieni, rhieni-yng-nghyfraith, mab, merch, llysfab, llysferch, plentyn partner, brawd, chwaer, tad-cu/mam-gu, ŵyr/wyres, ewythr, modryb, nai, nith neu briod neu bartner un o’r uchod; a
- mae ‘partner’ yn is-baragraff 2(a) uchod yn golygu aelod o gwpl sy’n cyd-fyw.
Datgan Diddordeb Personol
2.9.
Rhaid i aelod sydd â diddordeb personol mewn mater ac sy’n mynychu cyfarfod o’r Awdurdod lle y caiff y mater hwnnw ei ystyried, ddweud wrth y cyfarfod am fodolaeth a natur y diddordeb ar ddechrau’r drafodaeth honno, neu bryd bynnag y daw ei (d)diddordeb yn y mater yn amlwg iddo/iddi.
Diddordeb Niweidiol
2.10.
- Yn amodol ar is-baragraff 2 isod, os oes gan aelod ddiddordeb personol mewn mater, ystyrir bod ganddo/ganddi hefyd ddiddordeb niweidiol yn y mater hwnnw os gallai aelod o’r cyhoedd, sy’n gyfarwydd â’r ffeithiau perthnasol, yn rhesymol ei ystyried yn ddigon arwyddocaol i ddylanwadu ar farn yr aelod am yr hyn sydd er lles y cyhoedd.
- Gellir ystyried nad oes gan aelod ddiddordeb niweidiol mewn mater os yw’r mater hwnnw yn ymwneud â’r canlynol -
- Awdurdod arall y mae’n aelod ohono;
- Awdurdod arall yn y sector cyhoeddus lle y mae ganddo gyfrifoldeb rheoli cyffredinol neu swydd reoli;
- corff y penodwyd neu yr enwebwyd ef gan yr Awdurdod yn gynrychiolydd iddo;
- swyddogaethau’r Awdurdod mewn perthynas â thâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(b), lle y mae’r aelod yn derbyn neu lle y mae ganddo/ganddi hawl i dderbyn tâl felly oddi wrth Awdurdod perthnasol; ac
- unrhyw un o swyddogaethau’r Awdurdod mewn perthynas â lwfans neu daliad a wneir o dan adrannau 173 i 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(a), adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(b), neu baragraffau 25, 25A a 25B o Atodlen 2 a pharagraffau 20, 20A a 20B o Atodlen 2A o Ddeddf yr Heddlu 1996(c).
Cymryd Rhan ar ôl Datgan Diddordeb/Cyswllt
2.11.
Rhaid i aelod sydd â diddordeb niweidiol mewn unrhyw fater –
- adael yr ystafell lle y cynhelir y cyfarfod cyn gynted ag y daw’n amlwg bod y mater yn mynd i gael ei ystyried yn y cyfarfod hwnnw oni fydd wedi derbyn caniatâd i aros gan Bwyllgor Safonau’r Awdurdod;
- beidio â cheisio dylanwadu yn amhriodol ar unrhyw benderfyniad ynglŷn â’r mater hwnnw.
2.12.
Yn y Rhan hon, mae ‘cyfarfod’ yn golygu unrhyw gyfarfod o’r –
- Awdurdod; neu
- unrhyw Bwyllgor, Is-bwyllgor, Cydbwyllgor neu Is-gydbwyllgor yr Awdurdod.
Cofrestr Diddordebau/Cysylltiadau’r Aelodau
Cofrestru Diddordebau Ariannol a Diddordebau Arall
2.13.
Mae’n ofynnol, o fewn 28 diwrnod ar ôl i ddarpariaethau Côd Ymddygiad yr Awdurdod gael eu mabwysiadu neu’u cymhwyso ar gyfer yr Awdurdod neu, o fewn 28 diwrnod o’i benodiad/phenodiad i’r swydd (os yw hynny’n ddiweddarach), i aelod gofrestru unrhyw ddiddordeb ariannol ar gofrestr yr Awdurdod, a gedwir yn unol ag adran 81(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, trwy gyflwyno i Swyddog Monitro’r Awdurdod, hysbysiad ysgrifenedig am –
- unrhyw waith neu fusnes a wneir ganddo/ganddi;
- enw’r sawl sy’n ei gyflogi neu sydd wedi’i benodi, enw unrhyw gwmni y mae’n bartner ynddo ac enw unrhyw gwmni lle y mae’n gyfarwyddwr sy’n derbyn taliad cydnabyddiaeth;
- enw unrhyw berson, ac eithrio’r Awdurdod perthnasol, sydd wedi gwneud taliad iddo/iddi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a godwyd ganddo/ganddi wrth gyflawni ei (d)dyletswyddau;
- enw unrhyw gorff corfforaethol sy’n cynnal busnes neu sy’n berchen tir yn ardal yr Awdurdod, y mae gan yr aelod ddiddordeb buddiannol ynddo ar ffurf gwarannau sydd â gwerth enwol o fwy na £25,000 neu, un canfed o gyfanswm gwerth y dyroddiad cyfrannau ar gyfer y corff hwnnw;
- manylion unrhyw gytundeb am nwyddau, wasanaethau neu waith a wnaed rhwng yr Awdurdod a’r aelod neu gwmni y mae’n bartner ynddo, neu gwmni lle y mae’n gyfarwyddwr sy’n derbyn taliad cydnabyddiaeth, neu gorff sy’n ateb y disgrifiad a roddir yn is-baragraff (d) uchod;
- cyfeiriad neu ddisgrifiad arall, sy’n ddigonol i adnabod lleoliad unrhyw dir y mae gan yr aelod ddiddordeb buddiannol ynddo ac sydd o fewn ardal yr Awdurdod;
- cyfeiriad neu ddisgrifiad arall sy’n ddigonol i adnabod lleoliad unrhyw dir fel un lle mai’r Awdurdod yw’r landlord a’r tenant yw cwmni y mae’r aelod yn bartner ynddo, neu gwmni lle y mae’n gyfarwyddwr sy’n derbyn taliad cydnabyddiaeth, neu gorff sy’n ateb y disgrifiad a roddir yn is-baragraff (d) uchod; a
- cyfeiriad neu ddisgrifiad arall sy’n ddigonol i adnabod lleoliad unrhyw dir o fewn ardal yr Awdurdod y mae gan yr aelod drwydded i’w ddefnyddio (naill ai ar ei ben/phen ei hun neu ar y cyd ag eraill) am gyfnod o 28 diwrnod neu fwy.
2.14.
Mae’n ofynnol, o fewn 28 diwrnod ar ôl i ddarpariaethau Côd Ymddygiad yr Awdurdod gael eu mabwysiadu neu’u cymhwyso ar gyfer yr Awdurdod hwnnw neu o fewn 28 diwrnod ar ôl ei b/phenodiad i’r swydd (os yw hynny’n ddiweddarach), i aelod gofrestru ei (d)diddordebau eraill ar gofrestr yr Awdurdod, a gedwir yn unol ag Adran 81(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, trwy ddarparu ar gyfer Swyddog Monitro’r Awdurdod, hysbysiad ysgrifenedig am ei (h)aelodaeth neu gyfrifoldeb rheoli cyffredinol neu swydd reoli o fewn y canlynol –
- corff y penodwyd neu yr enwebwyd ef gan yr Awdurdod yn gynrychiolydd iddo;
- awdurdod cyhoeddus neu gorff â swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
- cwmni, cymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus(a), elusen, neu gorff sy’n gwneud gwaith elusennol;
- corff y mae ei brif bwrpasau yn cynnwys dylanwadu ar farn y cyhoedd neu bolisi; ac
- undeb llafur(b) neu gymdeithas broffesiynol.
2.15.
Rhaid i aelod, o fewn 28 diwrnod ar ôl iddo/iddi ddod yn ymwybodol o unrhyw newid mewn perthynas â’r diddordebau a bennir ym mharagraffau 2.13 a 2.14 uchod, ysgrifennu at Swyddog Monitro’r Awdurdod i’w hysbysu am y newid.
Hafan