Penodi’r Awdurdod
Aelodaeth
Mae’r Awdurdod yn cynnwys pedwar ar bymtheg o aelodau, deg cynghorydd, tri Ustus a chwe aelod Annibynnol.
Penodir aelodau sy’n gynghorwyr o blith aelodau Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys mewn modd sy’n gorfod adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y pleidiau ar draws y cynghorau i gyd.
Cydbwyllgor o gynrychiolwyr y pedwar Cyngor Sir sy’n gwneud y penodiadau i Awdurdod yr Heddlu.
Aelodau Annibynnol
Mae’r broses ffurfiol ar gyfer penodi aelodau annibynnol wedi ei osod yn Neddf Plismona 1996 a rheoliadau cysylltiol.
Rhaid i hysbysebu penodiadau mewn o leiaf dau bapur newydd a ddosberthir yn yr ardal. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried yn gyntaf gan Banel Dethol yn cynnwys tri aelod:
- Aelod o’r Awdurdod o blith yr aelodau sy’n gynghorwyr neu’n ynadon;
- Unigolyn a benodir gan yr Ysgrifennydd Cartref, ar hyn o bryd Ms. Joanna Mussen; a
- Trydydd unigolyn a ddewisir gan y ddau aelod arall.
Mae’r Panel Dethol yn llunio rhestr fer o bedair gwaith y nifer o safleoedd sydd i’w llenwi ac yn cyflwyno’r enwau i’r Ysgrifennydd Cartref. Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedyn yn haneru’r nifer o enwau a gyflwynwyd ac mae’r aelodau’r Awdurdod sy’n Gynghorwyr neu’n Ynadon yn llunio’u detholiad terfynol o blith dewis yr Ysgrifennydd Cartref. Mae’r Awdurdod yn cyfweld yr ymgeiswyr terfynol.
Aelodau sy’n Ynadon
Mae’r broses ffurfiol ar gyfer penodi aelodau sy’n Ynadon Lleyg wedi ei osod yn Adran 3 Deddf Plismona 1996, ac a fewnosodwyd gan Ddeddf Llysoedd 2003.
Hysbysebir penodiadau i bob Ynad Lleyg yn ardal yr Awdurdod. Ystyrir ceisiadau’n gyntaf gan:
- Aelod o’r Awdurdod o blith yr aelodau sy’n gynghorwyr neu’n aelodau unigol;
- Unigolyn a benodir gan yr Ysgrifennydd Cartref, ar hyn o bryd Ms. Joanna Mussen; a
- Trydydd unigolyn a ddewisir gan y ddau aelod arall.
Mae’r Panel Dethol yn llunio rhestr fer o ddwywaith y nifer o safleoedd sydd i’w llenwi ac yn cyflwyno’r enwau i’r aelodau’r Awdurdod sy’n Gynghorwyr neu’n Ynadon sy’n llunio’u detholiad terfynol. Mae’r Awdurdod yn cyfweld yr ymgeiswyr terfynol.
Hafan