Amdanom Ni
Mynegai
Tair swyddogaeth allweddol Awdurdod yr Heddlu yw:
- Sicrhau Gwasanaeth Heddlu effeithlon ac effeithiol (Adran 6, Deddf Heddlu 1996).
- Sicrhau Gwerth Gorau, h.y. gwelliannau parhaus yn y ffordd y mae (ei swyddogaethau) yn cael eu gweithredu gan roi sylw i gynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (Adran 3, Deddf Llywodraeth Leol 1999).
- Gwneud trefniadau i gael:
- Barn pobl leol ynghylch plismona’u hardal; a
- Chydweithrediad pobl leol wrth atal trosedd.
10 peth y mae angen i chi wybod am eich Awdurdod yr Heddlu
- Mae’r Awdurdod wedi ei lunio o 19 o bobl leol sy’n dal yr heddlu’n atebol ar ran cymunedau
- Rydym yn ymgynghori â chymunedau lleol i ddarganfod beth rydych chi ei eisiau gan eich heddlu lleol
- Ein gwaith ni yw sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn darparu gwasanaeth heddlu sy’n cydbwyso blaenoriaethau strategol Prydeinig a phryderon y bobl leol
- Rydym yn penodi, ac os oes angen, yn diswyddo prif gwnstabliaid ac uwch-swyddogion yr heddlu – a hefyd yn archwilio cwynion yn erbyn Heddlu Dyfed-Powys.
- Rydym yn cyhoeddi cynllun blynyddol, yn seiliedig ar ymgynghoriad â phobl leol, gan nodi’r gwasanaethau y dylai’r heddlu eu darparu yn ystod y flwyddyn nesaf a’r targedau y dylai eu cyflawni
- Rydym yn penodi gwirfoddolwyr o’r gymuned leol i archwilio lles pobl a gedwir yn y ddalfa a lles cŵn yr heddlu
- Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldebau a chysylltiadau da rhwng grwpiau gwahanol o bobl. Fel rhan o hyn rydym yn sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau os ydynt yn cael eu stopio a’u harchwilio gan yr heddlu.
- Ni sy’n dal cyllideb yr heddlu. Mae’r Awdurdod yn ymgynghori â’r bobl leol cyn gosod treth y cyngor er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwerth am arian
- Ni sy’n gosod cyfeiriad strategol plismona lleol er mwyn sicrhau bod pawb yn elwa o well gwasanaeth plismona
- Rydym yn sicrhau bod gwasanaeth yr heddlu’n gwneud pob peth y gall i barhau i wella plismona ar gyfer eich cymuned chi
Hafan